Dyma Fwyd a Diod. Gwlad, Gwlad.
Rydym yn cefnogi'r diwydiant i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sector bwyd a diod cryf a bywiog sy'n cefnogi ein cymunedau, yr amgylchedd, a sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth.
Rydym yn cefnogi'r diwydiant i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sector bwyd a diod cryf a bywiog sy'n cefnogi ein cymunedau, yr amgylchedd, a sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth.
Mae cymorth cynhwysfawr ar gael i helpu cwmnïau bwyd a diod Cymru i ffynnu a llwyddo.
Bwydo Cymru: O'r fferm i'r fforc - mae Cymru ar fin trawsnewid y ffordd y mae'n meddwl am fwyd, gyda chyhoeddi datblygiad Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru.
Dysgwch mwy am sut y gallwn helpu eich busnes i weithredu mewn ffordd gynaliadwy, a bod yn fwy parod ar gyfer newidiadau yn yr hinsawdd.
Mae’r Rhaglen Datblygu Masnach yn eich helpu i dyfu eich busnes bwyd a diod a chreu swyddi drwy ymdrin â bylchau sgiliau a chymwyseddau. Mae rhaglenni penodol yn mynd i’r afael â’r bylchau hynny a allai fodoli yn eich busnes.
Mae allforio’n golygu gwerthu mwy, a mwy o elw. Ond mae’n bwysig cynllunio a pharatoi’n ofalus er mwyn cael mantais gystadleuol. Byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i deilwra cymorth sy’n benodol i’ch anghenion, gan gyfeirio at y Rhaglen Cefnogi Allforio.
Mae'r Rhaglen Cywain yn cynnig cefnogaeth o ansawdd uchel, wedi'u teilwra i gynhyrchwyr bwyd a diod - boed eich bod yn rhedeg busnes newydd, micro, neu fusnes bach a chanolig.
Mae’n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch arloesol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r defnyddiwr, gan helpu busnesau i dyfu a ffynnu.
Unwaith eto eleni, mae cynhyrchion o bob cwr o Gymru wedi dod i’r brig yng Ngwobrau Aur Great Taste gan brofi bod gan fwyd a diod o Gymru enw da haeddiannol am ansawdd a blas.
Lansiwyd Blas Cymru / Taste Wales yn 2017, gyda digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal bob dwy flynedd yn 2019, 2021 a 2023. Mae wedi dod yn ddigwyddiad nodedig a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru sy'n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd, o bob rhan o'r byd.
Dysgwch am Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru, sy'n annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.
Mae’r Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad i fusnesau bwyd a diod Cymru er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus.
O gymorth ariannol i seilwaith arloesol, mae Cymru'n cynnig yr amgylchedd delfrydol i fusnesau arloesi a thyfu yn y diwydiant bwyd.
Mae’r ffaith eich bod chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn awgrymu eich bod chi’n cydsynio i’n defnydd o gwcis. Ein polisi cwcis.