Gwybodaeth hawlfraint
© Hawlfraint y Goron
Mae’r rhan fwyaf (ond nid y cyfan) o’r deunydd a welir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron.
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio’r wybodaeth hawlfraint y Goron a nodir ar y wefan hon (ac eithrio logos ac unrhyw ddelweddau) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau Trwydded Agored y Llywodraeth. Am nad yw pob cynnwys ar y wefan o dan hawlfraint y Goron, rhaid i chi gysylltu â FoodandDrinkWalesComms@gov.wales cyn i chi ddefnyddio unrhyw ddeunydd.
Rhaid i chi atgynhyrchu ein deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fydd unrhyw rai o eitemau hawlfraint y Goron ar y wefan hon yn cael eu hailgyhoeddi neu’u copïo at eraill, rhaid cydnabod ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint (e.e. Hawlfraint y Goron © Bwyd a Diod Cymru). Rydym ni hefyd yn eich annog i sefydlu dolenni hyperdestun i’r wefan hon fel rhan o'r gydnabyddiaeth. Wrth ddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar lein, rhaid i chi ddefnyddio tag sy’n cyfeirio at ffynhonnell wreiddiol yr wybodaeth.
Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y wefan hon ble dangosir fod yr hawlfraint yn berchen i drydydd parti. Bydd angen ceisio caniatâd i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan ddeiliad hawliau’r trydydd parti.
Oni nodir yn wahanol, mae pob delwedd yn © hawlfraint y Goron.
Gwaherddir defnyddio Bwyd a Diod Cymru neu unrhyw logo arall o eiddo Llywodraeth Cymru heb ein caniatâd ysgrifenedig clir. Er mwyn gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio unrhyw logo o eiddo Llywodraeth Cymru, a fyddech cystal ag e-bostio: brandingqueries@gov.wales.
Ymwadiad gweithgaredd
Nid yw bwydadiod.cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros y ffaith eich bod chi’n cymryd rhan yn unrhyw rai o’r gweithgareddau sy’n derbyn sylw ar y wefan hon. Byddwch chi’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny ar eich risg eich hun a chi sy’n gyfrifol am wneud y gwirio angenrheidiol i sicrhau fod gweithgaredd yn unol â’ch anghenion penodol a bod darparwr y gweithgaredd yn ddigonol abl a / neu wedi’i achredu a’i fod yn meddu ar yswiriant addas. Efallai nad yw gwybodaeth ar y wefan hon a ddarperir gan ddarparwyr gweithgareddau’n gywir, yn gyflawn na’n gyfredol ac mae bwydadiod.cymru yn eithrio pob atebolrwydd o fath yn y byd o ran pob hawliad, boed mewn contract neu gamwedd (gan gynnwys esgeulustra) neu fel arall a all godi o, neu mewn cyswllt â, chynnwys y wefan hon.
Cynnwys trydydd parti
Foodanddrink.wales cannot guarantee the accuracy or reliability of the images shown from third party organisations on this website. Every effort has been made to ensure a true representation of Wales is shown. We hereby disclaim any responsibility for error, omission or misrepresentation.
Images from social media are imported by software used by the respective social sites and have not been manually saved by foodanddrink.wales. If you require further information or wish for an image to be removed please contact FoodandDrinkWalesComms@gov.wales.
Ni all bwydadiod.cymru warantu cywirdeb na dibynadwyedd y delweddau a ddangosir oddi wrth sefydliadau trydydd parti ar y wefan hon. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau fod Cymru’n cael ei chynrychioli’n gywir. Rydym drwy hyn yn ymwadu â phob cyfrifoldeb dros wall, hepgoriad neu gamgynrychioliad.
Tynnir delweddau o gyfryngau cymdeithasol drwy apiau’r safleoedd cymdeithasol perthnasol ac nid ydynt wedi cael eu cadw’n gorfforol gan bwydadiod.cymru. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os dymunwch i ddelwedd gael ei dileu, cysylltwch os gwelwch yn dda â FoodandDrinkWalesComms@gov.wales.
Telerau ac amodau gwefan Bwyd a Diod Cymru
Mae’r telerau defnyddio hyn (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt yma a'r telerau uchod) yn amlinellu’r telerau y gallwch chi ddefnyddio ein gwefan www.croeso.cymru (y “Safle”) danynt.
Mae ein polisi preifatrwydd hefyd yn amlinellu’r telerau yr ydym ni’n prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a ddarperir gennych i ni, danynt. Drwy ddefnyddio ein Safle, rydych chi’n cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych chi’n gwarantu fod pob data a ddarperir gennych yn gywir.
Darllenwch y telerau defnyddio hyn a’n polisi preifatrwydd (ynghyd â’r “Telerau Defnyddwyr”) yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio ein Safle os gwelwch yn dda. Drwy ddefnyddio ein Safle rydych chi’n cytuno eich bod chi’n derbyn y Telerau Defnyddiwr a’ch bod chi’n cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych chi’n cytuno â’r Telerau Defnyddiwr, ni ddylech ddefnyddio ein Safle.
Heyd, gwelwch ein Polisi Cwcis, sydd yn amlinellu'r gwybodaeth am sut y defnyddir cwcis ar ein Safle.