Mae’r rhaglen yn darparu mynediad i ystod eang o adroddiadau sy’n eich galluogi i ddadansoddi a deall tueddiadau yn well yn y marchnadoedd manwerthu bwyd a gwasanaethau bwyd y tu allan i’r cartref yng Nghymru a Phrydain.
Mae mewnwelediad i’r farchnad sy’n cwmpasu 50 o wledydd ledled y byd ar gael drwy’r rhaglen. Yn ogystal â data cyfredol y farchnad, mae’r rhaglen ewnwelediad yn darparu gwybodaeth am ddatblygu tueddiadau yn y dyfodol a’ch grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddyfeisio’ch cynlluniau busnes i fodloni gofynion newidiol cwsmeriaid a defnyddwyr.
Bydd cyrchu’r adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i chi yn y sector, gan eich galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am ddyfodol eich busnes.
Gallwch gofrestru drwy Ardal i Aelodau i gael mynediad i’r holl adroddiadau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru