Ffurflen Cysylltu â Ni Bwyd a Diod Cymru

Pan fyddwch yn defnyddio ffurflen Cysylltu â Ni Bwyd a Diod Cymru, rydym yn gofyn ichi roi’ch enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Rydym yn prosesu'r wybodaeth bersonol hon er mwyn cofnodi'ch ymholiad a sicrhau eich bod yn cael y cymorth priodol oddi wrth ein timau gwasanaethau. 

Mae’ch gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn inni arfer ein hawdurdod swyddogol fel Llywodraeth Cymru i gefnogi ac i hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru.

Caiff y data hyn eu rhannu gyda sefydliadau sy'n cael eu contractio gan Lywodraeth Cymru a'u caffael gan y Fframwaith Bwyd a Diod i’n helpu i roi cefnogaeth ichi. Bydd yr wybodaeth a rennir ar gael i weinyddwyr technegol ein system ac i reolwyr prosiectau sy'n gweithio ar y system TG. Ni fydd gweinyddwyr y system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd

Ni fyddwn yn cadw’r wybodaeth bersonol sy'n gysylltiedig â'ch ymholiad am fwy na 12 mis, a hynny yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru ar Gadw Data.

E-fwletin Newydd sy’n Canolbwyntio ar Dfefnyddwyr Bwyd a Diod Cymru  

Os ydych yn tanysgrifio i gael E-fwletin newydd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr Bwyd a Diod Cymru, mae angen inni brosesu gwybodaeth bersonol amdanoch (eich enw, eich e-bost a'ch cod post). Mae angen yr wybodaeth hon arnom er mwyn anfon yr E-fwletin atoch yn electronig ac er mwyn deall cyrhaeddiad daearyddol yr E-fwletin. 

Er mwyn inni gael anfon yr E-fwletin atoch, mae'n ofynnol inni gasglu a chofnodi’ch caniatâd penodol i wneud hynny. Ni fyddwn yn anfon yr E-fwletin atoch oni bai eich bod wedi rhoi’ch caniatâd inni wneud hynny, a gallwch ddewis roi’r gorau i gael yr E-fwletin ar unrhyw adeg drwy ddatdanysgrifio yma.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a roddwch.  Trydydd parti a benodir o dan gontract gan Lywodraeth Cymru fydd y prosesydd data ar gyfer rheoli E-fwletin newydd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr Bwyd a Diod Cymru (gan ddefnyddio Moosend). Mae rhagor o wybodaeth am Moosend ar gael yma: Polisi Preifatrwydd Moosend

Eich hawliau

  • O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
  • i gael gweld y data personol a gedwir gan Lywodraeth Cymru
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (mewn rhai amgylchiadau) i'ch data gael eu 'dileu'
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Manylion Cyswllt

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk  

Gallwch cysylltu â Bwyd a Diod Cymru drwy’r e-bost: FoodDivisionalBusiness@llyw.cymru  

I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ac am sut y mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth amdanoch

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth a roddwch inni yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

Newidiadau i'r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma a byddant yn cael eu gweithredu ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost yr ydym wedi'i gofnodi yn eich cyfrif er mwyn ichi gael bwrw golwg dros y fersiwn newydd..

Straeon cysylltiedig

Ein hymrwymiad hygyrchedd

Nod bwydadiod.cymru yw gwasanaethu’r gynulleidfa fwyaf posib, a chafodd ei datblygu drwy ateb anghenion pobl â galluoedd amrywiol.

Lady holding pies at innovaiton centre

Canolfannau Arloesi

Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn darparu amrywiaeth o raglenni a phrosiectau i gefnogi'r diwydiant bwyd a diod, sy'n galluogi busnesau i dyfu a pharhau i fod yn gynaliadwy.