Bydd y strategaeth newydd yn dull trawsnewidiol system gyfan o gysylltu polisïau bwyd, sy'n cwmpasu cynhyrchu, prosesu, manwerthu yn ogystal â sut mae'r bwyd rydyn ni'n ei gynhyrchu yn berthnasol i faterion iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a'r economi gylchol.
Mae Simon Wright, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector lletygarwch yng Nghymru, wedi'i benodi i gadeirio'r Gweithgor Arbenigol a fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r strategaeth. Ef yw perchennog Wright's Food Emporium yn Llanarthne, ac mae'n arbenigwr ar fwyd a systemau bwyd. Bydd yn arwain sgyrsiau â chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru.
Mae cadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru yn werth dros £28 biliwn ac mae'n cyflogi un o bob chwech o weithwyr ar draws y wlad. Bydd y strategaeth newydd, sy'n un o ymrwymiadau 100 Diwrnod y Llywodraeth newydd, yn nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae bylchau yn bodoli. Bydd yn sicrhau bod polisïau bwyd yn gweithio'n well gyda'i gilydd i gefnogi cynhyrchwyr, i sicrhau ein bod yn cadw ac yn ail-fuddsoddi mwy o werth y bwyd o Gymru yng Nghymru, ac i hyrwyddo llythrennedd bwyd a bwyta'n iach.
Bydd y Gweithgor Arbenigol yn darparu argymhellion ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd allweddol sy'n wynebu system fwyd Cymru, yn cynghori ar sut i fesur llwyddiant, i ddatblygu cydweithrediad hirdymor rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach a'r diwydiant bwyd a diod. Disgwylir i'r strategaeth derfynol gael ei chyflwyno i'r Gweinidogion yn ystod 2027.
Llyr Gruffydd, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a ChynaliadwyeddMae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel. Mae ein sector bwyd a diod yn troi'r cynnyrch hwnnw, sydd o'r radd flaenaf, yn amrywiaeth eang o gynhyrchion sy'n cael eu mwynhau ledled Cymru a'u hallforio dramor, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth. Rydyn ni eisiau ychwanegu at y llwyddiant hwnnw.Bydd y strategaeth hon yn dod â'r system fwyd gyfan ynghyd; o'n ffermwyr a'n pysgotwyr i'n manwerthwyr, ysgolion a chymunedau, fel y gallwn ni wneud penderfyniadau gwell, mwy cydgysylltiedig er budd pawb yng Nghymru.Dw i'n falch iawn bod Simon Wright wedi cytuno i arwain y gwaith hwn. Mae ei frwdfrydedd dros fwyd o Gymru a'i wreiddiau dwfn yn y diwydiant yn golygu mai ef yw'r union berson cywir ar gyfer y rôl hon.
Simon Wright, Cadeirydd y Gweithgor ArbenigolMae Cymru'n rhagori yn y maes bwyd a diod, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dorri drwodd a sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn i'n diwydiant a'n gwlad.Dw i'n croesawu uchelgais y Llywodraeth newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau i'w gwireddu.
Dweud eich dweud
Nawr yw eich cyfle i helpu llywio strategaeth a dyfodol y diwydiant yng Nghymru. Os hoffech ddysgu mwy am sut allwch chi gymryd rhan, e-bostiwch: NationalFoodStrategy@gov.wales