Mae’n cynnwys polisïau sy’n cefnogi’r diwydiant bwyd-amaeth a rheoli adnoddau naturiol yn uniongyrchol, a pholisïau ehangach sy’n ymwneud â bwyd ar raws rhychwant ein gwaith ar gyfer iechyd, addysg, cynaliadwyedd, cymunedau a’r economi.
Mae’n dangos sut mae ein polisïau’n dod at ei gilydd o amgylch deg Amcan Llesiant Llywodraeth Cymru, sydd yn eu tro’n cynyddu ein cyfraniad i saith Nod Llesiant hirdymor Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae cydweithio wrth wraidd ein ffordd o weithio, ac rydym yn sicrhau bod ein polisïau ar draws y llywodraeth yn arwain at ddull cyson a chydgysylltiedig o adeiladu Cymru sy'n gynaliadwy, yn iach ac yn ffyniannus i bawb.