Mae adroddiad ‘Gwerth Cymreictod’ wedi bod yn olrhain agweddau defnyddwyr ers nifer o flynyddoedd ac mae’n dangos bod awydd sylfaenol cryf am fwyd a diod o Gymru yng Nghymru, gydag wyth o bob deg o’r ymatebwyr yn dweud y byddent yn dewis cynhyrchion tebyg o Gymru yn hytrach na chynhyrchion sy’n tarddu o wledydd eraill, a byddai bron i ddwy ran o dair yn talu mwy am gynhyrchion o Gymru, ffigur sydd wedi cynyddu’n aruthrol o’i gymharu â 44 y cant yn 2017.

Yn ogystal, mae cyfran sylweddol yn dewis manwerthwyr neu leoliadau sy’n gysylltiedig â bwyd o leiaf yn rhannol ar sail a oes detholiad da o gynhyrchion o Gymru ar gael, gyda ‘Chymreictod’ yn cynnwys ystod eang o ystyron cadarnhaol, fel ‘Mwy Ffres’, ‘Blas Gwell’, ‘Ansawdd Gwell’, ‘Cynaliadwy’ a ‘Naturiol’.

Ond nid yw'r teimladau hyn wedi'u cyfyngu i Gymru yn unig, gyda siopwyr yn Lloegr hefyd â chanfyddiad cadarnhaol o frandiau â tharddiad, ac yn ystyried cynnyrch Cymru â’r un parch â phobl Cymru, sy’n tanlinellu gwerth brandiau o darddiad Cymreig.

Mewnwelediadau mwy eang 

Gallwch lawrlwytho amrywiaeth o adroddiadau ehangach isod (er bydd angen cofrestru ar gyfer ein Ardal Aelodau i gael mynediad at rai ohonynt).

  • Gwerth Cymreictod - Effaith Manwerthu 2026

    Cewch wybod am y Fframwaith Cyfathrebu Tair Lefel sydd ei angen i lwyddo: effaith Hunaniaeth y Siop, Llywio yn y Siop, a Deunydd Pacio. Dewch i ddeall yr amgylcheddau gwahanol y caiff eich cynhyrchion eu rhoi ynddynt, gydag enghreifftiau o arfer dda a gwael. Beth am ddysgu pam mai'r Ddraig Goch yw'r symbol fwyaf adnabyddus ar gyfer siopwyr cynnyrch Cymreig a sut ddylid ei defnyddio'n effeithiol.

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 7 – Manwerthu (2024)

    Mae rhifyn diweddaraf ymchwil y Rhaglen Mewnwelediad Gwerth Cymreictod yn datgelu mewnwelediadau allweddol i’r hyn y mae siopwyr Cymru yn eu ffafrio, sef cynnyrch ‘Cymreig’, a’u dirnadaeth o gefnogaeth manwerthwyr tuag at fwyd a diod o Gymru. Yn ogystal â hynny, mae’n ymchwilio i’r hyn y mae siopwyr o Loegr yn ei ffafrio o ran tarddle a bwyd a diod o Gymru mewn trefi sydd ar y ffin.

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 6 – Bwyta ac Yfed Allan o’r Cartref (2023)

    Mae'r cyflwyniad hwn yn rhoi cipolwg allweddol ar agweddau gwesteion a lleoliadau tuag at fwyd a diod Cymru allan o’r cartref gan bwysleisio yr hoffai gwesteion weld mwy o fwyd a diod Cymru allan o'r cartref. Mae hefyd yn darparu manylder ynghylch pwysigrwydd bwyd a diod Cymru pan fydd gwesteion yn dewis lleoliad.

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 5 – Manwerthu (2022)

    Mae'r cyflwyniad hwn yn cynnwys mewnwelediad newydd i awydd cwsmeriaid am Gymreictod yn dda. 

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 4 – Bwyta ac Yfed Allan o’r Cartref (2021)

    Mae’r cyflwyniad hwn yn rhoi cipolwg allweddol ar agweddau gwesteion a lleoliadau tuag at fwyd a diod Cymru allan o’r cartref, gan bwysleisio yr hoffai gwesteion weld mwy o fwyd a diod Cymru allan o’r cartref. Mae hefyd yn darparu manylder ynghylch agweddau’r sector cyhoeddus tuag at fwy o Gymreictod.

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 3 - Ymchwil fanwl i asesu agweddau defnyddwyr tuag at gynnyrch a brandio Cymru

    Mae’n hanfodol deall sut mae siopwyr yn gweld bwyd a diod Cymru er mwyn adeiladu brandiau Cymreig cryf sy’n gallu ffynnu mewn marchnad gystadleuol a dynamig. Yn y gwaith ymchwil hwn, rydym yn ymdrechu i ddadansoddi emosiynau defnyddwyr sy’n gysylltiedig â Chymru a’u cysylltiadau â bwyd a diod o Gymru. Y nod yw deall lle y mae’r cysylltiadau gryfaf, sut y gellir cyfleu nodweddion Cymru drwy iaith, brandio a phecynnu a sut y gall cynhyrchwyr Cymru fanteisio i’r eithaf ar eu potensial.

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 2 - Awydd Siopwyr i Brynu Cynhyrchion o Gymru

    Dangosodd ymchwil fod siopwyr o Brydain Fawr a Chymru o’r farn bod bwyd a diod o Gymru yn eithriadol o dda – gan ddweud eu bod yn naturiol ac yn ffres a bod yr ansawdd yn rhagorol. Gyda chymeradwyaeth mor gryf ar gyfer cynhyrchion o Gymru, roedden ni am weld sut roedd siopwyr yn ymddwyn mewn gwirionedd pan oedden nhw’n siopa, i wirio a oedd siopwyr yn prynu cynhyrchion o Gymru pe bai dewis ganddyn nhw.

    Dysgwch mwy
  • Gwerth Cymreictod 1 - Bwyd a Diod o Gymru mewn Atyniadau Ymwelwyr

    Comisiynwyd yr astudiaeth gan Lywodraeth Cymru a oedd eisiau cael gwell dealltwriaeth o’r graddau y mae bwyd a diod o Gymru yn cael eu darparu mewn atyniadau ymwelwyr yng Nghymru; eu rhesymau am wneud hynny / am beidio â gwneud hynny; ac i ba raddau mae ymwelwyr yn dymuno prynu cynnyrch lleol o Gymru.

    Dysgwch mwu

Straeon cysylltiedig