Mae bwyd yn ein cysylltu â’n gilydd. Mae’n cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau bob dydd, yn unigol ac ar y cyd. O’r fferm i’r fforc, mae’r system fwyd yn cefnogi ffyniant economaidd, ein hiechyd corfforol a meddyliol, ac yn helpu i ddod â’n cymunedau at ei gilydd.
Trwy weithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid, a gwrando ar eu barn am yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer bwyd lleol, mae'r strategaeth yn anelu i ddatgloi'r potensial enfawr i fwyd lleol gyfrannu at les pobl yng Nghymru.
Gall gwella cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol agor cyfleoedd i gynyddu mynediad pobl at fwyd iach, cynaliadwy gyda milltiroedd bwyd, ac wedi’i gynhyrchu mewn ffordd sy’n cefnogi natur. Gall cyflawni hyn ein helpu i leihau tlodi bwyd, atal salwch sy’n gysylltiedig â deiet, a datgloi cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd mewn economïau lleol.
Os byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd clir ac arwyddocaol y gall cynhyrchu bwyd lleol eu cynnig, gyda’n gilydd gallwn roi manteision lles i bobl a chymunedau ledled Cymru.