Mae gan ganolfannau bwyd rôl strategol, yn darparu cymorth technegol i fusnesau sy’n dechrau, busnesau bach a chanolig a gweithgynhyrchwyr bwyd sy’n bodoli’n barod. Os ydych chi’n fusnes newydd, os oes angen help arnoch i dreialu cynnyrch newydd, neu os ydych yn chwilio am gyngor a hyfforddiant arbenigol, mae timau gwybodus yn darparu'r atebion.

Dysgwch fwy am y Rhaglen HELIX, sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddatblygu cynhyrchion arloesol o'r cysyniad, y dyluniad, y datblygiad a'r gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa'r defnyddiwr, gan helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

Pwy yw Arloesi Bwyd Cymru?

Wedi’i leoli mewn tair canolfan fwyd ledled Cymru, mae tîm o arbenigwyr diwydiant Arloesi Bwyd Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol yn helpu cwmnïau bwyd a diod i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd. O fusnesau newydd i gwmnïau sefydledig, mae Arloesi Bwyd Cymru wrth law i ddarparu cefnogaeth dechnegol a masnachol:

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, Prifysgol Metropolitan, Caerdydd

Email: ZERO2FIVE@cardiffmet.ac.uk 

Ffôn: 02920 416306 

Food Technology Centre, Grŵp Llandrillo Menai, North Wales 

Email: ftc@gllm.ac.uk 

Ffôn: 01248 383345 

Food Centre Wales, Ceredigion County Council, Mid-West Wales 

Email: gen@foodcentrewales.org.uk 

Ffôn: 01559 362230

Y Rhaglen HELIX - cymorth technegol a masnachol a ariennir ar gyfer cwmniau bwyd a diod Cymru 

Os yw’ch cwmni bwyd a diod wedi’i leoli yng Nghymru yna efallai y byddwch yn gymwys i gael cefnogaeth a ariennir gan Y HELIX Rhaglen. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth technegol a masnachol. Ariennir y Rhaglen HELIX gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen HELIX yn cynnig cefnogaeth sydd wedi’i theilwra i anghenion eich cwmni.

Mae'r Rhaglen HELIX yn darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, gan gefnogi cwmnïau o Gymru i ddatblygu ac ail-ffurfio cynhyrchion gwreiddiol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, ac ymlaen i fasged siopa’r defnyddiwr.

Mae'r Rhaglen HELIX yn gweithio gyda chwmnïau o Gymru i ddadansoddi’n fforensig bob cam o’r broses weithgynhyrchu, gan adnabod ffyrdd o leihau gwastraff a chyflwyno Mae'r Rhaglen HELIXar draws rheolyddion proses, dylunio safleoedd a datblygu systemau.

Mae’r dull strategol o weithio gan Y Rhaglen yn galluogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru i elwa o arfer gorau a gwybodaeth o’r diwydiant o bob rhan o’r byd. Er enghraifft, gall cwmnïau dderbyn cymorth i ennill achrediad trydydd parti megis BRC a SALSA, gan agor y drws i farchnadoedd newydd ar gyfer eu cynhyrchion.

Ydych chi wedi'ch rhestru yng Nghyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru? 

Mae Cyfeiriadur Bwyd a Diod Cymru yn cynnwys cofnodion gan dros 500 o gwmnïau ac mae'n bodoli i godi ymwybyddiaeth a sbarduno gwerthiant cynhyrchion Cymru yn y DU ac ar draws y byd.

Mae'n rhad ac am ddim i gael eich cynnwys ac mae cwmnïau bach a mawr i'w gweld yn y cyfeiriadur. Os ydych chi eisoes wedi'u rhestru yna gallwch chi ddiweddaru'ch cofnod yma.

Gall defnyddwyr chwilio am gynhyrchwyr, cyd-bacwyr, cyflenwyr cynhwysion a gweithgynhyrchwyr pecynnu yn seiliedig ar leoliad, categori cynnyrch BRCGS, sianel gyflenwi, gallu allforio ac ardystio.

Mewn ymdrech i hyrwyddo cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac effeithlonrwydd gwastraff, gall cwmnïau hysbysebu unrhyw allbynnau o'u proses gynhyrchu fel sgil-gynhyrchion neu wastraff a allai fod o werth i fusnes arall.

Ymrestrwch am ddim nawr

Straeon cysylltiedig

Foodex Japan 2026

Allforio

Mae allforio’n golygu gwerthu mwy, a mwy o elw. Ond mae’n bwysig cynllunio a pharatoi’n ofalus er mwyn cael mantais gystadleuol. Byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i deilwra cymorth sy’n benodol i’ch anghenion, gan gyfeirio at y Rhaglen Cefnogi Allforio.

factory

Ymsefydlu yng Nghymru

O gymorth ariannol i seilwaith arloesol, mae Cymru'n cynnig yr amgylchedd delfrydol i fusnesau arloesi a thyfu yn y diwydiant bwyd.

Welsh produce on display shelves

Rhaglen Datblygu Masnach

Mae’r Rhaglen Datblygu Masnach yn eich helpu i dyfu eich busnes bwyd a diod a chreu swyddi drwy ymdrin â bylchau sgiliau a chymwyseddau. Mae rhaglenni penodol yn mynd i’r afael â’r bylchau hynny a allai fodoli yn eich busnes.