Mae Rhaglen Cywain yma ar gyfer busnesau bwyd a diod o unrhyw faint ar bob cam o’u datblygiad.

P’un a ydych chi’n rhedeg busnes newydd, micro, neu fusnes bach a chanolig, bydd ein harbenigwyr yn rhoi pecyn wedi’i deilwra at ei gilydd i helpu’ch cwmni i
dyfu a bod yn fwy proffidiol. Rydym yn dechrau gyda diagnostig o’ch busnes a’i anghenion. O’r fan honno, byddwn yn cynnig amrywiaeth o gymorth i chi a allai gynnwys:

  • Eich cyflwyno i gysylltiadau â’r diwydiant a helpu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng
    eich busnes a’r gadwyn gyflenwi
  • Help i ddatblygu cynnyrch
  • Mynediad at offer, mentoriaid ac adnoddau a fydd yn eich helpu i gynyddu eich
    busnes
  • Cyngor ar farchnata a strategaeth busnes, gan gynnwys mynediad at yr ymchwil
    ddiweddaraf ar gyfer eich sector

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru

Straeon cysylltiedig

World Chefs Congress

Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad

Mae’r Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad i fusnesau bwyd a diod Cymru er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus.

Welsh produce on display shelves

Rhaglen Datblygu Masnach

Mae’r Rhaglen Datblygu Masnach yn eich helpu i dyfu eich busnes bwyd a diod a chreu swyddi drwy ymdrin â bylchau sgiliau a chymwyseddau. Mae rhaglenni penodol yn mynd i’r afael â’r bylchau hynny a allai fodoli yn eich busnes.

different types of produce

Cluster Network 

These clusters have been developed to maximise economic growth within Wales and also to respond to sectors that need direct Welsh Government support.

Chef talks to potential customer

Rhaglen y Gwasanaeth Bwyd

Amcan cyffredinol Rhaglen y Gwasanaeth Bwyd yw cefnogi busnesau Bwyd a Diod Cymru i dyfu a chreu swyddi drwy sicrhau contractau i farchnadoedd rhanbarthol (Cymru) a chenedlaethol (DU).