Diolch i bawb a ddaeth i Blas Cymru / Taste Wales 2025 a helpu i'w wneud yn llwyddiant ysgubol. Lansiwyd yn 2017, gyda digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ers hynny, mae wedi dod yn ddigwyddiad nodedig a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru, sy'n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd, o bob rhan o'r byd.

Mae'r digwyddiad wedi gweld twf economaidd a llwyddiant mawr yn genedlaethol a thu hwnt, i fusnesau a'r diwydiant. Mae Blas Cymru / Taste Wales wedi esblygu, ac er mwyn caniatáu iddo dyfu, mae wedi'i rannu'n ddau ddigwyddiad ar wahân:

Blas Cymru / Taste Wales 2027 - Cwrdd â'r cyflenwr, a gynhelir yng Nghanolfan Confensiwn Ryngwladol Cymru, Celtic Manor, Casnewydd yn Hydref 2027.

Cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2027, yn Venue Cymru, Llandudno, dyddiad i'w gadarnhau.

Gwybodaeth i Brynwyr - Manwerthu a Gwasanaeth Bwyd

Mae Cymru wedi ymgymryd â buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn galluoedd a chapasiti cynhyrchu bwyd a diod.

Mae tîm Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru wedi dylunio digwyddiad Blas Cymru ar gyfer prynwyr proffesiynol o fanwerthu, gwasanaeth bwyd, lletygarwch - hefyd datblygwyr a chogyddion.

Uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad yn cynnwys:

  • Cwrdd â diwydiant o dan yr un to - cyfraniadau gan gwmnïau achrededig SALSA a BRCGS
  • Canolbwyntio ar arloesi gyda 200 o gynhyrchion newydd yn cael eu harddangos
  • Arddangosfa cynnyrch 3000 gyda phrynwyr sy'n gallu chwilio'n annibynnol
  • Amser effeithlon - System ddyddiadur i drefnu cyfarfodydd rhagarweiniol byr
  • Gwybodaeth arbenigol Bwyd a Diod Cymru i helpu i nodi cyflenwyr addas
  • Marchnad Ser Disglair- Cysylltu â chyflenwyr newydd

Gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru

Blas Cymru / Taste Wales yw'r prif ddigwyddiad yng Nghymru ar gyfer y sector. Arddangoswch eich cynhyrchion i brynwyr blaenllaw y diwydiant o fanwerthu a gwasanaeth bwyd, rhwydweithio â chwaraewyr allweddol yn y diwydiant bwyd a diod, yn ogystal â darganfod cynhyrchion a thueddiadau arloesol.

I gymryd rhan, mae'n ofynnol i gwmnïau fod yn fusnes gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru sydd wedi cyflawni ac yn cynnal isafswm BRCGS neu Salsa neu achrediad cyfatebol.

Cofrestru

Bydd rhagor o wybodaeth yn ymddangos yma pan fydd cofrestru ar agor ar gyfer digwyddiad 2027.

Straeon cysylltiedig

Foodex Japan 2026

Allforio

Mae allforio’n golygu gwerthu mwy, a mwy o elw. Ond mae’n bwysig cynllunio a pharatoi’n ofalus er mwyn cael mantais gystadleuol. Byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i deilwra cymorth sy’n benodol i’ch anghenion, gan gyfeirio at y Rhaglen Cefnogi Allforio.

factory

Ymsefydlu yng Nghymru

O gymorth ariannol i seilwaith arloesol, mae Cymru'n cynnig yr amgylchedd delfrydol i fusnesau arloesi a thyfu yn y diwydiant bwyd.

Puffin produce production line

Clwstwr Cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.