Mae rhai o'r rhaglenni a'r prosiectau hyn yn cynnig cymorth ariannol, eraill yn cynnig cyngor, tra bod rhai yn cynnig y cyfle i ymuno â phartneriaethau cydweithredol sy'n agor cyfleoedd i brofi arfer gorau a syniadau newydd. Mae pob un wedi'i gynllunio i greu cyfleoedd go iawn i chi wneud eich busnes yn well.
Drwy archwilio'r hyn sydd ar gael drwy'r amrywiol raglenni a phrosiectau hyn, byddwch yn sicrhau eich bod yn gwybod sut i yrru eich busnes ymlaen orau. Boed yn creu swyddi, datblygu cynhyrchion newydd, dysgu sgiliau newydd neu geisio cyngor ar ystod eang o bynciau - rydym yma i helpu.
Ein rhaglenni cymorth
Rhaglen Cywain
Mae'r Rhaglen Cywain yn cynnig cefnogaeth o ansawdd uchel, wedi'u teilwra i gynhyrchwyr bwyd a diod - boed eich bod yn rhedeg busnes newydd, micro, neu fusnes bach a chanolig.
Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad
Mae’r Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad i fusnesau bwyd a diod Cymru er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus.
Rhaglen Datblygu Masnach
Mae’r Rhaglen Datblygu Masnach yn eich helpu i dyfu eich busnes bwyd a diod a chreu swyddi drwy ymdrin â bylchau sgiliau a chymwyseddau. Mae rhaglenni penodol yn mynd i’r afael â’r bylchau hynny a allai fodoli yn eich busnes.
Rhaglen y Gwasanaeth Bwyd
Amcan cyffredinol Rhaglen y Gwasanaeth Bwyd yw cefnogi busnesau Bwyd a Diod Cymru i dyfu a chreu swyddi drwy sicrhau contractau i farchnadoedd rhanbarthol (Cymru) a chenedlaethol (DU).
Enwau Bwyd a Diod Gwarchodedig
Gall cydnabod eich cynnyrch bwyd neu ddiod o Gymru o dan un o gynlluniau Dynodiad Daearyddol y DU roi statws gwarchodedig amhrisiadwy iddo. Mae’n cadarnhau ei fod yn gynnyrch unigryw, wedi’i gynhyrchu yng Nghymru yn unig.
Rhaglen Allforio
Gallwn gynnig cefnogaeth un i un i chi os ydych yn ystyried allforio fel ffordd o gynyddu eich trosiant a’ch elw.
Rhaglen HELIX
Mae’n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch arloesol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r defnyddiwr, gan helpu busnesau i dyfu a ffynnu.
Rhaglen Twf
Mae’r Rhaglen hon yno i’ch helpu i fynd â’ch gweithrediadau i’r lefel nesaf trwy ddatblygu dull strategol hirdymor o dyfu.
Sgiliau Bwyd a Diod Cymru
Mae’r Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi i fusnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru i’w paratoi i ddatblygu a thyfu’n broffidiol.
Before you start...
Cwcis
Mae’r ffaith eich bod chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn awgrymu eich bod chi’n cydsynio i’n defnydd o gwcis. Ein polisi cwcis.