Mae gweithdai a hyfforddiant ar gael mewn chwe maes:
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
- Marchnata a gwerthu
- Cynhyrchu a gweithgynhyrchu
- Cynaliadwyedd a datgarboneiddio
- Cydymffurfio a gofynion statudol
- Hyfforddiant pwrpasol
Bydd busnesau’n derbyn cymorth diagnostig i nodi bylchau mewn sgiliau ac yna eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant, cyrsiau a chyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Byddant hefyd yn eich helpu i gael gafael ar unrhyw gyllid cymorth sydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru