Mae’r Rhaglen hon yno i’ch helpu i fynd â’ch gweithrediadau i’r lefel nesaf trwy ddatblygu dull strategol hirdymor o dyfu.
Bydd ein harbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod ac ariannol yn gweithio gyda chi i oresgyn pum rhwystr cyffredin i dyfu:
- Mynediad i gyfalaf
- Mynediad i neu ryddhau capasiti
- Gwella cymwyseddau a sgiliau
- Hyder
- Dod o hyd i bartneriaid cydweithio
Rydym yn teilwra rhaglen i chi sy’n mynd i’r afael â’ch rhwystrau unigol i gynyddu a chyflwyno’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch trwy gyfuniad o fentora a hyfforddiant un-i-un, gweithdai, digwyddiadau ac ymweliadau â busnesau sydd eisoes ar eu taith i dyfu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru