Rydym yn falch o ansawdd ac amrywiaeth y bwyd a diod sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, a'r ffaith eu bod yn cystadlu ar lwyfan y byd. Rydym yma i feithrin a chefnogi pob busnes sy'n ymwneud â'r diwydiant, o fragwyr, pobyddion, gweithgynhyrchwyr a phroseswyr, hyd at fanwerthu ac allforwyr, i dwristiaeth – lle bynnag yr ydych a beth bynnag a wnewch.

Mae bwyd a diod yn faes economaidd â blaenoriaeth yng Nghymru, ac mae'r twf a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol. Ein bwriad yw parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn a'i wneud hyd yn oed yn well, drwy gefnogi pawb ynddo i barhau i ddangos i'r byd pam mae Cymru wir yn genedl o arloeswyr bwyd a diod.

Er ein bod yn angerddol, rydym hefyd yn gyfrifol. Yn sail i'r holl waith o wneud a dosbarthu bwyd a diod mae haen o bolisïau cadarn sy'n helpu'r diwydiant i ffynnu. Byddwn yn parhau â hyn, a bydd ein hethos craidd yn ysgogi llwyddiant trwy gydweithio. Wrth wraidd ein llwyddiant mae partneriaeth wirioneddol rhwng busnesau, y byd academaidd a'r llywodraeth – nawr ac yn y dyfodol.

Ein gweledigaeth yw creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru, sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth, wedi’i ategu gan un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.

Darganfod mwy