Mae Bwyd a Diod Cymru wedi ymrwymo i ehangu'r ystod o fwyd a diod o Gymru sydd â’r marc ansawdd GI Enw Bwyd Gwarchodedig. Mae defnyddwyr bwyd a diod heddiw’n dueddol o chwilio am ansawdd a tharddiad, ac mae gan ein teulu o gynhyrchion GI sy’n tyfu fwy na digon o hyn.
Mae'r broses GI yn hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru, sy'n adrodd eu straeon o arbenigedd, traddodiad a chynaliadwyedd, pob un â synnwyr angerddol o'i darddiad unigryw. Heddiw mae 24 eitem ar ‘brif restr’ GI Cymru, gan gynnwys eiconau bwyd Cymru fel Cig Oen Cymru PGI, Cennin Cymreig (PGI), Caws Caerffili Traddodiadol o Gymru (PGI), Wisgi Brag Sengl Cymreig (PGI) a llawer mwy.
Rydym yn cynnig cefnogaeth i gynhyrchion newydd sydd â diddordeb mewn ennill statws GI. Ar ôl iddynt gael y statws, mae'r cynhyrchion hyn yn elwa o statws gwarchodedig a gweithgarwch hyrwyddo parhaus ar-lein ac mewn digwyddiadau. Gallwch edrych ar ein map i weld ble mae’r aelodau GI presennol wedi'u lleoli a gallwn roi cyngor arbenigol ar sut i gymhwyso a gwneud cais am statws Enw Bwyd Gwarchodedig. I gael gwybodaeth am wneud cais am statws UKGI neu enw bwyd gwarchodedig, cysylltwch â UKGI.Wales@llyw.cymru.
P'un a yw defnyddwyr yn ceisio’r dynodiad yng Nghymru neu ledled y byd, mae gan ein cynhyrchion GI ansawdd, dilysrwydd a threftadaeth nodedig man naturiol eu tarddiad.
Ein cynnyrch Dynodiad Daeryddol (GI)
Halen Môn (PDO)
Mae 'dilysrwydd' yn air sy'n cael ei orddefnyddio'n aml, ond does dim ffordd arall o ddisgrifio'r arloesedd hwn pan mae Anglesey Sea Salt a Halen Môn dan sylw.
Cig Oen Mynyddoedd Cambria (PGI)
Cig Oen Mynyddoedd Cambria (PGI) oedd yr ail gynnych Cymreig newydd i dderbyn Dyfarniad Statws Daearyddol y DU, sy’n hynod ddymunol, yn dilyn cyflwyno’r cynllun newydd yn 2021.
Ham Caerfyrddin (PGI)
Mae cynhyrchu Ham Caerfyrddin, sy'n cael ei sychu ag aer a'i drin gyda halen, yn dibynnu ar allu a phrofiad, a dechreuodd y cwbl gydag Albert Rees, cigydd marchnad yn y 1970au ac ers hynny mae wedi'i drosglwyddo drwy genedlaethau'r teulu Rees.
Cregyn Gleision Conwy (PDO)
Caiff y berthynas gysylltiedig rhwng yr amgylchedd naturiol a gweithgarwch dynol ei gwerthfawrogi'n llwyr yn y broses anhygoel hon, y mae cynaliadwyedd yn allweddol iddi.
Gin Botanegol Brodorol Dyfi (PGI)
Mae Gin Botanegol Brodorol Dyfi PGI yn Jin crefft nodedig sy’n amlygu blasau unigryw Biosffer Dyfi UNESCO yng Nghanolbarth Cymru.
Cig Oen Morfa Heli Gŵyr (PDO)
Cig Oen Morfa Heli Gŵyr (PDO) oedd y cynnyrch newydd cyntaf i ennill Statws Dynodiad Daearyddol y DU, yn dilyn cyflwyno'r cynllun newydd yn 2021. Gyda'i stori a'i flas unigryw, mae Cig Oen Morfa Heli Gŵyr yn falch o arwain y ffordd ar gyfer cynnyrch o safon yng Nghymru a'r DU.
Tatws Cynnar Sir Benfro (PGI) / Tatws Cynnar (PGI)
Yn un o aelodau cynharaf y teulu Dynodiad Daearyddol, dyfarnwyd Tatws Cynnar Sir Benfro â statws PGI yn 2013.
Wystrys Brodorol Sir Benfro (PGI) a Wystrys Cerrig Sir Benfro (PGI)
Mae Wystrys Brodorol Sir Benfro yn ddanteithfwyd arforol â’u gwreiddiau mewn traddodiad a natur; cynnyrch mwyaf gwerthfawr Aber y Daugleddau, lle mae’r dyfroedd sy’n llawn maetholion yn cyfuno â llif ffres Mynydd Preseli.
Cig Eidion Cymru PGI
Cig Eidion Cymreig oedd yn cynnal fflam PGI yng Nghymru gan mai dyma'r cynnyrch cyntaf i gyflawni'r statws. Ymddengys bod hyn yn gydnabyddiaeth addas i gynnyrch sy'n ffurfio rhan arbennig o bwysig o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Cig Oen Cymru PGI
Does dim yn fwy eiconig na Chig Oen Cymreig. Mae defaid ac ŵyn Cymreig yn ffurfio rhan sylfaenol yn hanes, treftadaeth, a diwylliant Cymru.
Wisgi Brag Sengl Cymreig (PGI)
Fel y gwirod Cymreig a Phrydeinig cyntaf i gael statws GI (Dynodiad Daearyddol), mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn cael ei gydnabod yn y wlad hon ac yn rhyngwladol fel cynnyrch o ansawdd unigryw.
Porc Cymreig o Dras wedi'i fagu'n Draddodiadol (TSG)
Fel mae teitl y cynnyrch hwn yn awgrymu, traddodiad sydd wrth wraidd DNA yr arfer hon o fagu cig moch. Caiff Cig Moch Cymreig o Dras wedi'i fagu'n Draddodiadol ei fagu drwy arferion traddodiadol penodol sy'n gwbl wahanol i systemau cynhyrchu masnachol, confensiynol.
Caws Caerffili Traddodiadol o Gymru (PGI)
Mae'r caws Cymreig artisan hwn yn adrodd stori ryfeddol sy'n pontio cannoedd o flynyddoedd. Mae'r 'Traditional Welsh Caerffili' yr ydym ni'n ei fwyta heddiw yn seiliedig ar rysáit sydd heb newid a gafodd ei hysgrifennu gan Annie Evans yn ei llyfr nodiadau yn 1907, ond mae'n debyg ei bod yn dyddio'n ôl ymhell i'r 19eg ganrif.
Seidr Cymreig Traddodiadol (PGI)
Caiff yr hylif hwn sy'n gyfwerth ag aur Cymreig ei wneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a'r cynhwysion mwyaf ffres. Cynhyrchir Seidr Cymreig Traddodiadol yng Nghymru o sudd afalau seidr wedi'u gwasgu o unrhyw amrywiaeth o afalau brodorol neu anfrodorol a dyfir yng Nghymru.
Perai Cymreig Traddodiadol (PGI)
Mae 'perai' yn air sy'n llawn hanes ac yn adnabyddus am ei natur ar raddfa fechan. Wedi dweud hynny, mae'n ffurf ar gelfyddyd sy'n adfywio yng Nghymru, yn hytrach na marw, gyda dros 20 o wneuthurwyr perai ledled Cymru sy'n rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd drwy Gymdeithas Perai Seidr Cymru.
Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd (PDO)
Fel y ffrwyth cyntaf i ymuno â theulu Dynodiad Daearyddol Cymru fel cynnyrch PDO yn 2019, mae gan yr eirin bychain hyn dipyn o stori i'w hadrodd.
Mêl Grug Cymru (PGI)
Mae Mêl Grug Cymru yn fêl nodweddiadol, hollol naturiol a gynhyrchir gan Wenyn mêl y Gorllewin (Apis mellifera) sy’n chwilota ar hyd a lled rhostiroedd grug bywiog Cymru.
Bara Lawr Cymreig (PDO)
O fod yn ffynhonnell fwyd hanfodol gyda phroffil maethol unigryw, cyn datblygu i fod yn ddanteithfwyd Cymreig, mae’r ‘blas ar arfordir Cymru’ yn rhyfeddol o hyblyg.
Cennin Cymreig (PGI)
Mae gan Cennin Cymreig PGI enw da am fod yn gynnyrch sy'n ymgorffori ymdeimlad cryf o le a tharddiad, a dyma oedd y trydydd cynnyrch o Gymru i gael Statws Dynodiad Daearyddol y DU, yn dilyn cyflwyno'r cynllun newydd yn 2021.
Gwin Cymreig (PDO) a Gwin Rhanbarthol Cymreig (PGI)
Efallai nad oeddech yn ymwybodol, ond mae Cymru yn cynhyrchu rhai o'r gwinoedd arloesol, gorau sy'n cael eu cydnabod fwyaf ledled y byd.
Eog wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru (PGI)
Cyflawnodd 'Eog wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru' statws PGI yn 2017, ond oherwydd gostyngiad yn y niferoedd, mae eu pysgota wedi'i wahardd dros dro.
Sewin wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru (PGI)
'Sewin wedi'i Ddal â Chyryclau Gorllewin Cymru' yw'r enw a roddir i rywogaeth pysgod Salmo trutta sy'n cael eu dal drwy ddull traddodiadol, hynafol Cymreig o bysgota cyryclau. Yn 2017, dyfarnwyd statws PGI i'r cynnyrch hwn, sydd wedi'i blethu ag afonydd a morluniau Cymru.
Before you start...
Cwcis
Mae’r ffaith eich bod chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn awgrymu eich bod chi’n cydsynio i’n defnydd o gwcis. Ein polisi cwcis.