Yn un o aelodau cynharaf y teulu Dynodiad Daearyddol, dyfarnwyd Tatws Cynnar Sir Benfro â statws PGI yn 2013. Nid unrhyw datws mo'r rhain, cânt eu tyfu yn Sir Benfro drwy ddulliau traddodiadol ac effaith gynhesu naturiol y môr sy'n caniatáu dechrau cynharach i'r tymor tyfu ac yn lleihau'r tebygolrwydd o rewi. Mae pridd Cymreig Sir Benfro yn gynhenid ffrwythlon, yn draenio'n rhydd ac yn gweithio'n rhydd.

Mae casglu a chynaeafu'r tatws unigryw hyn yn gofyn cydbwysedd meistrolgar o ddulliau traddodiadol ac arloesedd - mae tyfu Tatws Cynnar Sir Benfro yn gyfuniad o wyddoniaeth a chelfyddyd. Yn wir, mae arbenigedd lleol wedi'i drosglwyddo drwy genedlaethau o ffermwyr yn Sir Benfro ers y 1700au.

Wedi'u tyfu'n uniongyrchol o ddeunydd tirlun Cymru, yn aml caiff y tatws bychain, llachar hyn eu tynnu â llaw ar ddechrau'r tymor er mwyn gwarchod eu crwyn tyner. Pan gaiff y tatws hyn sy'n gyfwerth ag aur Cymreig eu coginio, mae arogl daearol a gwead llyfn, hufennog iddynt.

Straeon cysylltiedig

PGI Welsh Beef

Cig Eidion Cymru PGI

Cig Eidion Cymru PGI oedd yn cynnal fflam PGI yng Nghymru gan mai dyma'r cynnyrch cyntaf i gyflawni'r statws. Ymddengys bod hyn yn gydnabyddiaeth addas i gynnyrch sy'n ffurfio rhan arbennig o bwysig o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

PGI Welsh Lamb

Cig Oen Cymru PGI

Does dim yn fwy eiconig na Cig Oen Cymru PGI. Mae defaid ac ŵyn Cymreig yn ffurfio rhan sylfaenol yn hanes, treftadaeth, a diwylliant Cymru.

Two whisky glasses

Wisgi Brag Sengl Cymreig (PGI)

Fel y gwirod Cymreig a Phrydeinig cyntaf i gael statws GI (Dynodiad Daearyddol), mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn cael ei gydnabod yn y wlad hon ac yn rhyngwladol fel cynnyrch o ansawdd unigryw.