Yn 1997, berwodd Alison a David Lea Wilson ddŵr môr Ynys Môn ar eu popty Aga ac yn ddiarwybod iddynt, gwnaethant ddechrau cwmni hynod lwyddiannus. Erbyn hyn maent yn llysgenhadon i'w halen byd-enwog sy'n gwbl rhydd rhag ychwanegion ac yn cynnwys dros 30 o elfennau a mwynau naturiol.

Heddiw, caiff Halen Môn ei fwynhau ledled y byd gan gogyddion a'r rheiny sy'n frwd dros fwyd ac sy'n rhyfeddu ar fflochiau crisialog gwastad, unigryw a blas glân dŵr môr Môn, heb unrhyw chwerwder a achosir gan ormod o galsiwm a all ddigwydd mewn halwynau eraill. Daw Halen Môn o ddŵr môr pur afon Menai sydd wedi'i hidlo yn naturiol ymlaen llaw drwy lan dywod a glan o gregyn gleision. Yn brawf i lendid y dŵr, mae hyd yn oed morfeirch yn mynd yno i fridio, ac mae'r rheiny'n enwog o ffyslyd ynghylch eu hamgylchedd.

I ddathlu ac amlygu'r straeon arbennig wrth wraidd y cynnyrch Cymreig balch hwn, dyfarnwyd statws PDO i Halen Môn yn 2014. Mae hyn yn golygu y gallwn ddiogelu ei statws fel yr unig halen môr a gynaeafir o'r Afon Menai rhwng Ynys Môn a thir mawr gogledd Cymru.

Straeon cysylltiedig

Cambrian Mountain Lamb

Cig Oen Mynyddoedd Cambria (PGI)

Cig Oen Mynyddoedd Cambria (PGI) oedd yr ail gynnych Cymreig newydd i dderbyn Dyfarniad Statws Daearyddol y DU, sy’n hynod ddymunol, yn dilyn cyflwyno’r cynllun newydd yn 2021.

carmarthen ham

Ham Caerfyrddin (PGI)

Mae cynhyrchu Ham Caerfyrddin, sy'n cael ei sychu ag aer a'i drin gyda halen, yn dibynnu ar allu a phrofiad, a dechreuodd y cwbl gydag Albert Rees, cigydd marchnad yn y 1970au ac ers hynny mae wedi'i drosglwyddo drwy genedlaethau'r teulu Rees.

Conwy Mussels

Cregyn Gleision Conwy (PDO)

Caiff y berthynas gysylltiedig rhwng yr amgylchedd naturiol a gweithgarwch dynol ei gwerthfawrogi'n llwyr yn y broses anhygoel hon, y mae cynaliadwyedd yn allweddol iddi.