Mae cynaliadwyedd yn dod yn ystyriaeth gynyddol bwysig i fusnesau bwyd a diod. Boed hynny oherwydd disgwyliadau cwsmeriaid, gofynion manwerthwyr, costau adnoddau cynyddol, rheoliadau newydd neu uchelgeisiau i dyfu'r busnes, mae cynaliadwyedd yn cynnig cyfleoedd yn ogystal â heriau.

Fel rhan o'r Gwasanaeth Cynaliadwyedd ehangach, mae ein Modiwlau Hyfforddiant Cynaliadwyedd AM DDIM yn cynnig arweiniad, offer ac adnoddau ymarferol i helpu gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru i gymryd camau i leihau allyriadau carbon a gwastraff bwyd, gwella cynaliadwyedd pecynnu a thyfu eu busnes mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Pam ddylai fy musnes fuddsoddi mewn cynaliadwyedd?

Mae gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yn gweithredu mewn amgylchedd cynyddol gymhleth. Mae cwsmeriaid, manwerthwyr, buddsoddwyr a llunwyr polisi yn rhoi mwy o bwyslais ar berfformiad cynaliadwyedd, tra bo busnesau'n parhau i wynebu heriau sy'n ymwneud ag ynni, deunyddiau, gwastraff ac effeithlonrwydd adnoddau.

Gall mynd ati'n rhagweithiol i wella cynaliadwyedd helpu eich busnes i:

  • Leihau costau gweithredu a gwella effeithlonrwydd
  • Nodi cyfleoedd i leihau allyriadau carbon
  • Lleihau gwastraff a gwneud gwell defnydd o adnoddau
  • Bodloni disgwyliadau cwsmeriaid a manwerthwyr
  • Meithrin gwytnwch yn wyneb newidiadau yn y farchnad ac mewn rheoliadau yn y dyfodol
  • Cefnogi twf a chystadleurwydd hirdymor eich busnes

Sut i ddefnyddio’r modiwlau hyfforddi

Mae'r modiwlau wedi'u cynllunio fel adnoddau dysgu hyblyg, ar alw, y gallwch gael mynediad atynt ar amser sy'n gyfleus i chi.

Mae pob modiwl yn cyfuno gweminar fer â llawlyfr ategol a thempledi ymarferol y gallwch eu golygu. Mae hyn yn eich galluogi chi ac aelodau'ch tîm i ganolbwyntio ar y pynciau sydd fwyaf perthnasol i'ch gweithrediadau a'ch amcanion cynaliadwyedd.

P'un a ydych yn cymryd eich camau cyntaf tuag at ddod yn fwy cynaliadwy neu'n adeiladu ar waith sydd eisoes ar y gweill, mae'r modiwlau'n cynnig arweiniad ac offer ymarferol i'ch helpu i symud ymlaen yn hyderus. Gallant hefyd fod yn adnodd dysgu defnyddiol i aelodau'ch tîm a'ch cydweithwyr fel rhan o'u datblygiad proffesiynol.

Ac nid oes rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Mae ein Gwasanaeth Cynaliadwyedd, sydd wedi'i ariannu'n llawn, yn cynnig mynediad at arbenigwyr ym maes asesu carbon, cyfleoedd i ddysgu gan gymheiriaid drwy aelodaeth o'r Clwstwr, ac adnoddau ymarferol i'ch helpu i feithrin gallu, goresgyn heriau a chyflymu eich cynnydd tuag at eich nodau cynaliadwyedd.

Oes gennych chi ddiddordeb? E-bostiwch ni yn SustainableFD@gov.wales

  • Modiwl 1: Mesur eich ôl troed carbon a datblygu Cynllun Lleihau Carbon

    Deall eich ôl troed carbon yw'r cam cyntaf tuag at leihau allyriadau a gwella effeithlonrwydd eich busnes.

    Mae'r modiwl hwn yn esbonio sut i fesur allyriadau nwyon tŷ gwydr eich sefydliad, nodi prif ffynonellau eich allyriadau a datblygu Cynllun Lleihau Carbon ymarferol. Mae'n cyflwyno dulliau cydnabyddedig o fesur ac adrodd ar garbon, ac yn tynnu sylw at gamau ymarferol a all helpu i leihau allyriadau a sicrhau manteision gweithredol i'ch busnes.

    Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

    - Sut i gyfrifo ôl troed carbon eich busnes

    - Deall allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3

    - Nodi prif ffynonellau allyriadau

    - Datblygu Cynllun Lleihau Carbon

    - Blaenoriaethu camau gweithredu ac olrhain cynnydd

    Gywliwch y fideo sy'n gysylltiedig a'r modiwl

    Lawrlwythwch y modiwl
  • Modiwl 2: Gwastraff Bwyd

    Gall lleihau gwastraff bwyd sicrhau manteision amgylcheddol ac ariannol sylweddol i weithgynhyrchwyr bwyd a diod.

    Mae'r modiwl hwn yn edrych ar achosion gwastraff bwyd ar draws gweithrediadau gweithgynhyrchu ac yn cynnig dulliau ymarferol o atal a lleihau gwastraff a defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon. Bydd busnesau'n dysgu sut y gall mynd i'r afael â gwastraff bwyd helpu i wella proffidioldeb, yn ogystal â chefnogi amcanion cynaliadwyedd ehangach.

    Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

    - Deall gwir gost gwastraff bwyd

    - Nodi'r prif ffynonellau gwastraff yn eich gweithrediadau

    - Dulliau ymarferol o atal gwastraff

    - Cyfleoedd i ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon

    - Mesur a monitro gwelliannau

    Modiwl yn dod yn fuan
  • Modiwl 3: Pecynnu Bwyd

    Mae pecynnu'n chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu cynhyrchion, diwallu anghenion cwsmeriaid a chyfleu gwerthoedd brand. Mae hefyd yn faes sy'n cael sylw cynyddol gan ddefnyddwyr, manwerthwyr a llunwyr polisi.

    Mae'r modiwl hwn yn cynnig arweiniad ymarferol ar optimeiddio pecynnu, dewisiadau pecynnu mwy cynaliadwy, disgwyliadau newidiol y farchnad a gofynion rheoleiddiol. Mae'n tynnu sylw at gyfleoedd i leihau effaith amgylcheddol pecynnu, gan barhau i ddiogelu'r cynnyrch a chefnogi nodau cynaliadwyedd cwsmeriaid.

    Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

    - Egwyddorion pecynnu cynaliadwy a sut i roi'r hierarchaeth pecynnu ar waith

    - Cyfleoedd i optimeiddio pecynnu

    - Ystyriaethau wrth ddewis deunyddiau

    - Deddfwriaeth newydd a thueddiadau'r farchnad

    - Cefnogi gofynion cwsmeriaid a manwerthwyr

    Modiwl yn dod yn fuan
  • Modiwl 4: Tyfu Eich Busnes yn Gynaliadwy

    Mae cynaliadwyedd a thwf busnes yn mynd law yn llaw. Gall strategaeth gynaliadwyedd effeithiol helpu busnesau i ddod yn fwy cystadleuol, yn fwy gwydn ac yn fwy deniadol i gwsmeriaid.

    Mae'r modiwl hwn yn edrych ar sut y gellir ymgorffori cynaliadwyedd mewn trefniadau llywodraethu, prosesau gwneud penderfyniadau a chynllunio busnes. Mae'n tynnu sylw at ffyrdd ymarferol o nodi cyfleoedd, rheoli risgiau a chreu gwerth hirdymor, wrth ymateb i ddisgwyliadau newidiol cwsmeriaid a manwerthwyr, yn ogystal â gofynion rheoleiddiol.

    Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu:

    - Yr achos busnes dros gynaliadwyedd

    - Ymgorffori cynaliadwyedd yn eich strategaeth fusnes

    - Nodi cyfleoedd i dyfu

    - Rheoli risgiau yn y dyfodol

    - Meithrin gwytnwch a mantais gystadleuol

    Modiwl yn dod yn fuan

Straeon cysylltiedig