Y Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd Adroddiad Monitro Chwarterol ar Risgiau Hinsawdd a Chadwyn Gyflenwi i’r Diwydiant Bwyd a Diod

Mae'r adroddiadau chwarterol hyn yn trafod effeithiau cyfansawdd aflonyddwch sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd ac aflonyddwch arall i'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, gan dynnu sylw at effeithiau a chanlyniadau i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a helpu rheoli'r gadwyn gyflenwi a phenderfyniadau rhagweld.

  • Gorffennaf - Medi 2026

    Mae’r adroddiad hwn yn ystyried yr effeithiau negyddol a achosir gan yr hinsawdd a tharfu ar y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Mae’n ceisio amlygu’r effeithiau a’r goblygiadau i weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, er mwyn helpu i reoli cadwyni cyflenwi a gwneud penderfyniadau rhagfynegol. Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod 1 Gorffennaf 2026 i 30 Medi 2025.

    Lawrlwythwch yr adroddiad
  • January - June 2026

    Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiau dwysaol tarfu sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a tharfu o fath arall ar y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Mae’n ceisio amlygu effeithiau ar weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a’r goblygiadau iddynt, er mwyn helpu i reoli cadwyni cyflenwi a gwneud penderfyniadau rhagfynegol. Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod 1 Ionawr 2026 tan 30 Mehefin 2026. Mae'r ffeithlun ar y dudalen nesaf yn crynhoi chwe phrif risg a'u heffeithiau ar fusnesau, dibyniaethau ar fewnforion, tueddiadau ym mhrisiau nwyddau, ac effeithiau posibl El Niño.

    Lawrlwythwch yr adroddiad

Tystebau

Roedd yr Hyfforddiant Addasu i'r Hinsawdd yn hynod addysgiadol ac ymarferol. Helpodd ein tîm i ddeall yn glir y risgiau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd sy'n effeithio ar ein gweithrediadau, ein cadwyn gyflenwi a'n pobl. Roedd y sesiwn yn ddiddorol, wedi'i strwythuro'n dda, ac mae eisoes wedi ysgogi sgyrsiau traws-swyddogaethol gwerthfawr am wydnwch a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gweithdy gwerth chweil iawn i unrhyw sefydliad sy'n ceisio cryfhau ei barodrwydd ar gyfer effeithiau hinsawdd.

Straeon cysylltiedig

Road closed due to flooding

Modiwlau Hyfforddiant Addasu a Gwydnwch i Newid Hinsawdd

Drwy gydnabod y risgiau a’r cyfleoedd y mae newid hinsawdd yn eu cyflwyno a gwneud addasiadau ystyriol, gall eich busnes bwyd neu ddiod gryfhau ei wydnwch i ddelio ag aflonyddwch yn eich cadwyni cyflenwi, cymryd camau i leihau neu osgoi effeithiau negyddol ar eich safleoedd, llwybrau mynediad, pobl a chwsmeriaid, a manteisio ar y cyfleoedd a all godi.

Puffin produce production line

Clwstwr Cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.