Mae lleihau allyriadau eich busnes nid yn unig yn dod â buddion i’ch busnes a’r gymuned ehangach, ond mae hefyd yn cyfrannu at darged y llywodraeth o gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050.
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a barodd ddwy flynedd, rydym yn falch o lansio ein Gwasanaeth Cynaliadwyedd. Drwy’r gwasanaeth hwn, gallwch gael mynediad at y Clwstwr Cynaliadwyedd, cymorth B Corp, a chynllun pwrpasol i leihau carbon.
Beth yw cynllun lleihau carbon?
Mae cynllun lleihau carbon yn rhaglen mapio sy’n cael ei chreu gan fusnesau neu sefydliadau i leihau eu hallyriadau carbon a’u hôl troed amgylcheddol. Mae’n gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau, yn amlinellu strategaethau i gyflawni’r nodau hyn, ac yn olrhain cynnydd dros amser.
Mae’r cynlluniau hyn yn aml yn cynnwys mesurau fel hybu effeithlonrwydd ynni, mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy, a hyrwyddo arferion cynaliadwy i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Sut gallwn ni gefnogi eich busnes?
Bydd busnesau’n cael cymorth gan gynghorydd technegol arbenigol i:
sefydlu llinell sylfaen ar gyfer eu hôl troed carbon;
- Sefydlu gwaelodlin ar gyfer eu hôl troed carbon
- Datblygu cynllun lleihau carbon gyda tharged o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, gan gynnwys targedau mesuradwy i helpu eich busnes i flaenoriaethu gweithgareddau lleihau carbon gydag amcangyfrif clir o arbedion carbon
- Ymweld â’ch safle (lle bo’n briodol) i ddeall eich busnes yn well
Enghreifftiau o fusnesau rydyn wedi’u cefnogi
Dysgwch fwy am sut mae’r cynllun peilot wedi bod yn helpu busnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru:
Sut gall eich busnes gymryd rhan?
I ymuno â’r cynllun, cysylltwch â ni ar yr e-bost isod a chynnwys “Cefnogaeth Cynlluniau Lleihau Carbon” yn y llinell bwnc.