Ydy eich busnes wedi ystyried ailddosbarthu bwyd dros ben ond wedi wynebu rhwystrau?

Mae menter gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â chanolbwynt bwyd dros ben FareShare Cymru, wedi sicrhau bod cyllid ar gael i’w gwneud hi’n haws i gwmnïau bwyd a diod o Gymru roi stoc dros ben.

Gallai menter Bwyd Dros Ben ag Amcan helpu eich busnes i oresgyn y rhwystrau hyn a helpu gyda chostau sy’n ymwneud â llafur, pecynnu, rhewi, cynaeafu a chludiant.

O wallau labelu i stoc sydd wedi pasio ei ddyddiad ar ei orau cyn, gallai’r fenter hon ateb eich heriau gwastraff, tra ar yr un pryd helpu’r amgylchedd a sefydliadau cymunedol.

Mae FareShare Cymru eisoes yn gweithio gyda 500 o gwmnïau ac yn dosbarthu i 188 o elusennau ledled Cymru – a wnewch chi ymuno â nhw?

 

 

Lawrlwythwch ein llyfryn FareShare

Attached files

Diddordeb? 

FareShare workers

Helpwch yr amgylchedd a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl heddiw. Darganfyddwch a allai eich busnes fod yn gymwys.

Straeon cysylltiedig

Puffin produce production line

Clwstwr Cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.

aerial sea view

Busnesau B Corp sy'n arwain yng Nghymru

Mae B Corp yn cael ei ystyried yn safon aur ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae’n cynnwys ymagwedd gyfannol sy’n gofyn am ymgysylltiad o bob agwedd ar fusnes i gynnal ei achrediad. Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn gweithredu, ei strwythur, ei weithwyr a’i brosesau cynhyrchu, ochr yn ochr â thryloywder ac atebolrwydd.