Dywedwch ychydig wrthym am eich busnes
Rydym yn gwmni rhostio coffi arbenigol wedi’i leoli yn Rhydaman, De Cymru. Sefydlwyd Coaltown Coffee yn 2013 i ddod â diwydiant newydd ac ymdeimlad o
bwrpas newydd i dref sydd â threftadaeth gyfoethog o gloddio glo. Wedi’n hysbrydoli gan y syniad o “Aur Du”, rydym wedi datblygu busnes coffi ffyniannus sydd wedi’i wreiddio mewn ansawdd, tarddiad a chymuned.
Heddiw, rydym yn dod â choffi arbenigol o gynhyrchwyr ledled y byd ac yn ei rostio yn ein pencadlys yn Rhydaman. Rydym hefyd yn rhedeg bariau espresso, yn cyflenwi cwsmeriaid cyfanwerthu, yn gweithredu siop ar-lein ac yn darparu hyfforddiant trwy ein hacademi goffi. Fel corfforaeth ardystiedig ‘B Corp’, rydym wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar ein pobl, ein cymuned a’r amgylchedd.
Beth oedd y prif fylchau mewn sgiliau a nodwyd cyn cael cymorth gan raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru?
Wrth i’n busnes dyfu, nodwyd sawl maes lle roeddem am gryfhau sgiliau ein tîm. Roedd datblygu arbenigedd technegol o ran bragu coffi yn bwysig er mwyn cynnal cysondeb, ansawdd y cynnyrch a phrofiad gwych i gwsmeriaid.
Roeddem hefyd am gryfhau ein dealltwriaeth o ddeddfwriaeth cyflogaeth ac arferion gorau, yn ogystal â gwella ein gallu o ran cymorth cyntaf yn y gweithle i
gefnogi lles a diogelwch y staff.
Pa gymorth neu hyfforddiant a gawsoch?
Cawsom hyfforddiant a oedd yn mynd i’r afael ag anghenion arbenigol ac anghenion gweithredol o fewn ein busnes. Cwblhaodd ein tîm dri rhaglen: Cymhwyster Canolradd Bragu SCA (SCA Brewing Intermediate Qualification), Dosbarth Meistr ar Gyfraith Cyflogaeth, a Chwrs Cymorth Cyntaf yn y Gweithle (cwrs 3 diwrnod). Roedd y rhain yn cynnig cyfuniad gwerthfawr o arbenigedd technegol, gwybodaeth am gydymffurfio, a sgiliau ymarferol ar gyfer y gweithle.
Pa wahaniaeth mae’r cymorth wedi’i wneud?
Mae’r hyfforddiant wedi cryfhau gwybodaeth, hyder a gallu ar draws ein tîm. Cwblhaodd tri aelod o’r tîm y Cymhwyster Canolradd Bragu SCA, gan wella eu gwybodaeth dechnegol am goffi a’u harbenigedd o ran bragu. O ganlyniad, aeth un o aelodau ein tîm ymlaen i gwblhau cwrs AST ac mae bellach yn hyfforddwr cymwysedig. Cynyddodd y Dosbarth Meistr ar Gyfraith Cyflogaeth ein hyder wrth reoli pobl a deall ein cyfrifoldebau cyfreithiol.
Enillodd chwe aelod o’r tîm gymwysterau cymorth cyntaf, gan gryfhau diogelwch yn y gweithle a’n paratoi ar gyfer argyfyngau. O ganlyniad i’r hyfforddiant hwn, roedd staff yn gallu ymateb yn hyderus a chynnig cymorth yn ystod argyfwng meddygol diweddar ar y safle, gan ddangos pwysigrwydd a gwerth yr
hyfforddiant hwn mewn sefyllfaoedd go iawn. Yn gyffredinol, mae’r gefnogaeth wedi ein helpu i ddatblygu gweithlu sy’n fwy medrus, gwydn a hyderus.
Sut mae’r hyfforddiant wedi cyfrannu at dwf a chystadleurwydd y busnes?
Mae buddsoddi yn ein pobl wedi ein helpu i adeiladu gweithlu sy’n fwy hyblyg a galluog, gan gefnogi ein cystadleurwydd a’n twf cynaliadwy. Mae’n golygu ein bod mewn sefyllfa well i ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid sy’n newid a gofynion gweithredol, tra’n parhau i gynnal yr ansawdd a’r safonau y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl gan Coaltown.
Beth yw rhagolygon y busnes ar gyfer y dyfodol, a pha rôl mae datblygu sgiliau yn ei chwarae?
Ein ffocws yw twf parhaus, tra’n cynnal ansawdd uchel ein cynnyrch a gwasanaeth cwsmeriaid. Rydym am adeiladu ar ein llwyddiant tra’n aros yn ffyddlon i’r
gwerthoedd sydd wedi sefydlu enw da Coaltown. Bydd datblygu sgiliau yn parhau i fod yn ganolog i hyn. Mae parhau i fuddsoddi yn ein tîm yn sicrhau bod
gennym y wybodaeth, yr hyder a’r arbenigedd ymarferol sydd eu hangen i gefnogi’r busnes a chyflawni twf cynaliadwy yn y tymor hir.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fusnesau bwyd a diod eraill sy’n ystyried hyfforddiant a datblygiad?
Byddem yn annog busnesau eraill i ystyried hyfforddiant fel buddsoddiad yn hytrach na chost. Gall deall y bylchau yn eich sgiliau a darparu cyfleoedd datblygu perthnasol gael effaith wirioneddol ar hyder a pherfformiad gweithwyr, yn ogystal ag ar y busnes yn ehangach.
Byddem hefyd yn argymell gwneud y mwyaf o’r gefnogaeth sydd ar gael trwy raglenni fel Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, a chynnwys gweithwyr yn y sgyrsiau wrth nodi hyfforddiant a fydd o fudd iddyn nhw ac i’r busnes.
Pe baech chi ar ynys anial, pa dri brand bwyd a diod Cymreig arall fyddech chi’n mynd gyda chi?
Byddem yn mynd â Shirgar, Pitchfork & Provision a Halen Môn. Tri brand gwych sy’n creu cynhyrchion unigryw ac yn hyrwyddo ansawdd a chreadigrwydd
bwyd a diod Cymru.
Mae Food & Drink Skills Wales yn cynnig cyllid o hyd at 80%, yn amodol ar gymhwysedd. Cysylltwch â’r tîm am ragor o fanylion.