Ffeithlen Protein Amgen

Mae’r ffeithlen yma yn rhoi trosolwg o broteinau amgen, gan gynnwys gwahanol ffynonellau protein, tueddiadau’r farchnad a defnyddwyr, a datblygiadau o fewn y sector. Mae’n archwilio gwybodaeth sy’n berthnasol i fusnesau bwyd a diod Cymru sy'n ystyried gweithio yn y maes yma sy’n datblygu.

Lawrlwythwch

Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo: gwybodaeth i fusnesau bwyd a diod

Efallai y bydd busnesau bwyd a diod sy’n masnachu â’r Undeb Ewropeaidd am ymgyfarwyddo â Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo (EUDR) ac ystyried a yw’n berthnasol i’w cynhyrchion a’u cadwyni cyflenwi.

Nod yr EUDR yw sicrhau bod nwyddau a chynhyrchion penodol sy’n cael eu rhoi ar farchnad yr UE, eu darparu ar y farchnad honno, neu eu hallforio ohoni, yn rhydd rhag datgoedwigo. Mae’r nwyddau sydd o fewn cwmpas y Rheoliad yn cynnwys gwartheg, coco, coffi, palmwydd olew, rwber, soia a phren, ynghyd â chynhyrchion penodol sy’n deillio ohonynt. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yma.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn nodi nad oes rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr a chwmnïau y tu allan i’r UE o dan yr EUDR oni bai eu bod nhw eu hunain yn rhoi cynhyrchion ar farchnad yr UE. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gofynnir i fusnesau y tu allan i’r UE ddarparu gwybodaeth i helpu busnesau yn yr UE i gyflawni eu rhwymedigaethau. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am ble y cafodd y nwyddau perthnasol eu tyfu, eu cynaeafu neu, yn achos da byw, eu magu.

Felly, efallai y bydd busnesau bwyd a diod yng Nghymru sy’n allforio i’r UE, neu sy’n cyflenwi busnesau sy’n masnachu â’r UE, am adolygu gwybodaeth a chanllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd a chanfod a yw’r Rheoliad yn berthnasol i’w gweithgareddau.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu’r wybodaeth swyddogol ganlynol:

  • Gweithredu’r EUDR a throsolwg ohono
    Trosolwg o’r Rheoliad a’r modd y caiff ei weithredu, ynghyd â dolenni at adnoddau ategol, gan gynnwys gwybodaeth i fusnesau a sefydliadau y tu allan i’r UE.
    Y Comisiwn Ewropeaidd: Gweithredu Rheoliad yr UE ar Ddatgoedwigo
  • Cwestiynau Cyffredin
    Mae Cwestiynau Cyffredin y Comisiwn Ewropeaidd ar yr EUDR yn rhoi rhagor o wybodaeth am weithredu’r Rheoliad ac yn ymdrin â chwestiynau a godwyd gan fusnesau a rhanddeiliaid eraill.
    Y Comisiwn Ewropeaidd: Cwestiynau Cyffredin am yr EUDR
  • Cynhyrchion sydd o fewn cwmpas y Rheoliad
    Mae Atodiad I i’r Rheoliad yn nodi’r nwyddau a’r cynhyrchion sydd o fewn cwmpas yr EUDR, gan gynnwys eu codau dosbarthu perthnasol. Mae tudalen weithredu’r Comisiwn yn rhoi mynediad at y ddeddfwriaeth a gwybodaeth am sut i wirio’r cynhyrchion sydd wedi’u rhestru.
    Y Comisiwn Ewropeaidd: Deddfwriaeth yr EUDR a gwybodaeth am gynhyrchion
  • System Wybodaeth yr EUDR
    Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn darparu System Wybodaeth ar-lein ar gyfer datganiadau diwydrwydd dyladwy a datganiadau symlach, ynghyd â gwybodaeth a deunydd ategol i ddefnyddwyr.
    Y Comisiwn Ewropeaidd: System Wybodaeth yr EUDR
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu a newidiadau i gwmpas cynhyrchion
    Ym mis Gorffennaf 2026, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ddiweddariad ar newidiadau i gwmpas cynhyrchion penodol a’r adnoddau sy’n cael eu cyflwyno i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Rheoliad.
    Y Comisiwn Ewropeaidd: Diweddariad EUDR Gorffennaf 2026

Straeon cysylltiedig

Puffin produce production line

Clwstwr Cynaliadwyedd

Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.

aerial sea view

Busnesau B Corp sy'n arwain yng Nghymru

Mae B Corp yn cael ei ystyried yn safon aur ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae’n cynnwys ymagwedd gyfannol sy’n gofyn am ymgysylltiad o bob agwedd ar fusnes i gynnal ei achrediad. Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn gweithredu, ei strwythur, ei weithwyr a’i brosesau cynhyrchu, ochr yn ochr â thryloywder ac atebolrwydd.

Manufacturing setting

Modiwlau Hyfforddiant Cynaliadwyedd

Mae ein cynnig Hyfforddiant Cynaliadwyedd wedi'i ddatblygu i helpu busnesau bwyd a diod i feithrin yr wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i weithredu. Drwy gyfres o fodiwlau hyblyg, ar alw, mae'r hyfforddiant yn cynnig arweiniad, offer ac adnoddau ymarferol y gallwch eu defnyddio'n uniongyrchol yn eich busnes.