Sut gall y clwstwr cynaliadwyedd helpu eich busnes
Rydyn ni i gyd wedi teimlo effeithiau chwalfa’r hinsawdd trwy ein bwyd. P’un a yw’n ffermwyr yn profi tywydd anarferol, yn weithwyr proffesiynol y diwydiant yn gwylio costau bwyd yn codi, neu ein cwsmeriaid yn gweld prinder bwyd ar silffoedd archfarchnadoedd.
Mewn byd sy’n fwyfwy ymwybodol o anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod gynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd ar flaen eu meddwl.
Mae defnyddwyr bellach yn disgwyl i’w bwyd a’u diod gael eu cyrchu a’u darparu’n gynaliadwy, gan ddibynnu ar weithgynhyrchwyr i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Manteision o Ymaelodi â’r Clwstwr Cynaliadwyedd
Mynediad at Gynllunio Lleihau Carbon yn rhad ac am ddim
- Cael gwaelodlin eich allyriadau carbon bersonol yn cynnwys argymhellion
- Bydd eich Cynllun Lleihau Carbon yn cyd-fynd â’r Protocol Nwyon Tŷ Gwydr a’r Hysbysiad Polisi Caffael Cyhoeddus 06/21, gan eich helpu i gydymffurfio â gofynion prynwyr
Desg gymorth cynaliadwyedd ar gyfer unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r amgylchedd
- Os nad ydym ni’n gwybod yr ateb, byddwn yn gwybod am rywun sydd yn!
Mynediad at adnoddau hyfforddiant Cynaliadwyedd a Chydnerthedd Hinsawdd am ddim
- Gweithdai cydnerthedd hinsawdd pwrpasol ar y safle ar gyfer timau arwain gweithgynhyrchwyr bwyd neu ddiod
- Modiwlau hyfforddi ar-lein ar Gynaliadwyedd a Chydnerthedd Hinsawdd
Cymorth ar gyfer ardystiad B Corp
- Cymorth un-i-un drwy gydol y broses ymgeisio ac ardystio
Cylchlythyr chwarterol
- Newyddion cynaliadwyedd a diweddariadau polisi, tueddiadau defnyddwyr, a chyfleoedd cyllido
Cyfle i rwydweithio a chydweithio ag aelodau eraill o’r Clwstwr Cynaliadwyedd
- Ymuno â Grŵp Diddordeb Arbennig o gwmnïau tebyg
- Cymryd rhan mewn ymweliadau cyfeirio a chyfnewid gwybodaeth rhwng cymheiriaid
- Ymuno â gweminarau a gweithdai thematig
Cyfle ychwanegol i ymuno â Chlwstwr NutriWales a Bwydydd Swyddogaethol, ac elwa arno
- Cefnogi arloesedd bwyd a diod iach a chynaliadwy
Cydweithio ag aelodau eraill a sefydliadau ymchwil
- Archwilio cyfleoedd datblygu newydd a mentrau’r diwydiant.