Menter Cymru gyfan yw'r Rhaglen HELIX a ddarperir gan Arloesi Bwyd Cymru, partneriaeth o 4 canolfan fwyd sydd wedi’u lleoli yn Ynys Môn, dau yng Ngheredigion, a Chaerdydd.
Os yw’ch busnes bwyd a diod wedi’i leoli yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth a ariennir drwy'r Rhaglen HELIX. Mae gan fusnesau cymwys fynediad at ystod o gymorth technegol a masnachol gan Arloesi Bwyd Cymru.
Gallwn gynnig cefnogaeth wedi’i theilwra i chi sydd wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion unigol eich busnes. Gallwn weithio gyda chi i ddadansoddi pob cam o’ch proses weithgynhyrchu, gan nodi sut i wneud eich busnes yn fwy effeithlon ar draws rheolaethau prosesau, dylunio safleoedd a datblygu systemau. Cewch elwa o arfer gorau ac ystod o wybodaeth am y diwydiant, a gynlluniwyd i wneud eich busnes yn well.
Gallwn hyd yn oed eich helpu i gyflawni ardystiad trydydd parti fel BRCGS a SALSA, a fydd yn agor marchnadoedd newydd ar gyfer eich cynhyrchion.
Gallwch ddysgu mwy am rai o wasanaethau'r Rhaglen HELIX drwy ymweld ag adran Canolfannau Arloesi'r wefan.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru