Gallwch ddysgu mwy am y manteision i'ch busnes yn adran allforio'r wefan.
Gallwn eich cefnogi gyda phopeth o ddatblygu eich strategaeth allforio – eich helpu i nodi’r marchnadoedd a’r gwledydd gorau ar gyfer eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau bwyd a diod a diffinio eich llwybr i’r farchnad – hyd at gynghori ar fanylion unrhyw broblemau ariannol a lleol, gweithdrefnau allforio, rheoliadau a logisteg, hyd yn oed eich briffio ar ofynion a diwylliannau iaith leol.
Mae gennym raglenni ar waith os ydych am ymweld â gwlad naill ai i ymchwilio cyfleoedd ac adeiladu cysylltiadau, neu i geisio gael archebion. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth i fynd i bafiliynau brand Bwyd a Diod Cymru mewn amrywiol sioeau masnach a drefnir gennym lle gallwch arddangos eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau ar lwyfan y byd.
Efallai y bydd cyllid grant ar gael ar gyfer y gweithgareddau hyn, a byddwn yn eich helpu i wneud cais. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru