Cafodd 'Golden Fork Cymru' ei dyfarnu i Fire and Ice am eu Sorbed Granadila mewn digwyddiad yn Llundain neithiwr, ar ôl cael ei ddewis o blith yr wyth cynnyrch Cymreig a dderbyniodd sgôr o 3 seren yng Ngwobrau Great Taste 2026.
Mae Fire and Ice, o Arberth, Sir Benfro, wedi bod yn creu gelato a sorbed crefftus llwyddiannus ers 2011. Mae'r busnes teuluol wedi ennill enw da am wthio ffiniau blas trwy eu creadigaethau sorbed arloesol, tra'n hyrwyddo cynhwysion Cymreig o ansawdd uchel.
Mae Fire and Ice wedi ennill 14 Gwobr Great Taste ers 2013, gan gynnwys gwobr fawreddog 3 seren am eu Sorbed Cyrens Duon yn 2018. Sicrhaodd eu llwyddiant diweddaraf, y Sorbed Granadila, y 'Great Taste Golden Fork Cymru' ar ôl creu argraff ar y beirniaid gyda'i flas cryf, ei gydbwysedd a'i ansawdd.
Dywedodd Ivan Wilson, perchennog Fire and Ice: "Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi cael ein henwi'n enillwyr 'Great Taste Golden Fork Cymru'. Mae derbyn y gydnabyddiaeth hon gan banel beirniadu mor uchel ei barch yn anrhydedd anhygoel ac yn foment o falchder i ni.
"Cafodd ein Sorbed Granadila crefftus o safon uchel ei greu trwy ddull arbrofol o ddatblygu cynnyrch, gan ganolbwyntio ar ddarparu blas cryf a dilys tra'n creu sorbed llai melys sy'n cynnig profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy.
"Mae cynrychioli Cymru ar y llwyfan hwn a chael ein cydnabod ochr yn ochr â chymaint o gynhyrchwyr rhagorol yn rhywbeth arbennig iawn."
Mae 'Great Taste Golden Fork Cymru', a noddir gan Bwyd a Diod Cymru, yn dathlu'r cynhyrchion bwyd a diod gorau a gynhyrchir yng Nghymru. Mae'r wobr yn cael ei chadw ar gyfer cynhyrchion sydd wedi cyrraedd y safon uchaf posibl – Gwobr Great Taste 3 seren – sy’n eu gosod ymhlith y cynhyrchion bwyd a diod mwyaf eithriadol a aseswyd gan Urdd y Bwyd Cain.
Daw'r wobr yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall i gynhyrchwyr Cymreig yng Ngwobrau Great Taste, gyda 166 o gynhyrchion o Gymru yn cael eu cydnabod, gan gynnwys wyth cynnyrch a dderbyniodd y sgôr fawreddog o 3 seren. Wrth longyfarch Fire and Ice, dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Gweinidog y Cabinet dros Gynaliadwyedd a Gwydnwch Gwledig Llywodraeth Cymru:
"Llongyfarchiadau i Fire and Ice ar eu llwyddiant yng ngwobrau Great Taste. Mae'n galonogol iawn gweld cwmnïau teuluol sefydledig yn gwneud mor dda ac yn cael eu cydnabod am y gwaith caled, yr arloesedd a'r ymroddiad sy'n mynd i gynhyrchu bwyd a diod o'r ansawdd uchaf.
"Wrth i ni edrych ymlaen at ein Strategaeth Bwyd Genedlaethol newydd, rydym ni’n mabwysiadu dull sy'n ystyried y system gyfan ac yn dod â phawb sy'n ymwneud â bwydo Cymru ynghyd, o'r cynhyrchydd i'r plât. Mae llwyddiannau fel hyn yn arddangos y bwyd a'r diod eithriadol rydym ni’n eu cynhyrchu a'r bobl dalentog sy'n gyfrifol amdanyn nhw, gan helpu i greu rhagor o gyfleoedd i fusnesau Cymreig dyfu a ffynnu.
"Mae'r gwobrau'n arddangosfa bwysig o ansawdd, arloesedd a blas rhagorol gan gwmnïau Cymreig. Dylen nhw fod yn falch iawn, ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
Mae Gwobrau Great Taste, a drefnir gan Urdd y Bwyd Cain, yn cael eu cydnabod yn eang fel un o gynlluniau achredu bwyd a diod mwyaf dibynadwy’r byd. Eleni, cyflwynwyd mwy na 15,000 o gynhyrchion o 116 o wledydd i'r gystadleuaeth, gyda phob cynnyrch yn cael ei asesu drwy broses flasu ddall drylwyr gan baneli o arbenigwyr yn y diwydiant.
I gael rhagor o wybodaeth am yr enillwyr o Gymru yng ngwobrau Great Taste eleni, ewch i: Enillwyr Cymreig Gwobrau Great Taste
I gael rhagor o wybodaeth am Fire and Ice ewch i https://www.fireandicewales.co.uk/