Cyhoeddwyd y fenter hon yr wythnos hon yn Sioe Frenhinol Cymru, a bydd yn cynnwys mwy na 30 o gyflenwyr lleol o bob rhan o Gymru, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd ar ystod eang o bynciau, o gydymffurfiaeth a marchnata i ddatblygu cynnyrch, logisteg a rheoli cyfrifon. 

Dywedodd Maisie McNab, Prynwr Lleol Asda dros Gymru: “Mae cefnogi cyflenwyr lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cadwyn gyflenwi gref a ffyniannus yng Nghymru. Mae dod â chynhyrchion lleol at ein cwsmeriaid a’u gwneud yn hygyrch yn flaenoriaeth allweddol, ac mae’r rhaglen bwrpasol hon, a fydd yn ein gweld yn gweithio’n agos gyda chynhyrchwyr, yn gyfle cyffrous i rannu cyngor ymarferol a defnyddiol, gan helpu cyflenwyr i wireddu eu potensial llawn. 

“Daw’r fenter hon gyda ffocws cryf ar dwf a chyfleoedd, gan ddatblygu sgiliau o fewn cwmnïau ledled Cymru gyda’r nod o wella prosesau gwaith, cynyddu gwerthiant a chryfhau sgiliau ar draws y diwydiant bwyd a diod. Mae’n gyfle cyffrous i gryfhau perthnasoedd allweddol ac adeiladu sector gwydn a chystadleuol sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Maisie McNab - Asda Local Buyer for Wales

Bydd y Rhaglen Datblygu Cyflenwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn rhedeg dros dri diwrnod rhwng mis Awst a mis Hydref. Bydd yn cynnwys ymweliadau â siop Coryton Asda yng Nghaerdydd a’i depo yng Nghas-gwent, gyda mewnbwn gan ystod eang o uwch-gynrychiolwyr Asda a rhanddeiliaid allweddol. 

Yn ystod eu hymweliad â’r siop, bydd cyflenwyr yn cwrdd ag Uwch Gyfarwyddwyr Asda a Rheolwyr Cyffredinol Siopau i drafod eu cynigion busnes, gan dderbyn adborth un-i-un ar eu cynigion a chyngor ynghylch meysydd lle y gallant wella. 

Yng Nghas-gwent, byddant yn cael mewnwelediad i’r gadwyn gyflenwi a logisteg, gan dderbyn cyngor ar bopeth o atebion dosbarthu i archebu slot mewn un o ddepos Asda. Yn y cyfamser, bydd diwrnod olaf yn swyddfa ganolog y manwerthwr yn Leeds yn canolbwyntio ar gyllid, masnachu a systemau Asda. 

Mae Tovali Soft Drinks o Gaerfyrddin, sydd wedi bod yn cyflenwi ei ddiodydd sgwash crynodedig i Asda ers dros 13 mlynedd, ymhlith y busnesau sydd wedi cofrestru ar y rhaglen. 

Dywedodd Karen Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Masnachol: “Mae’r fenter hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Asda i’r brandiau Cymreig o safon y mae siopwyr yn eu gwerthfawrogi. 

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r tîm, gan gryfhau perthynas sydd eisoes yn cael ei gwerthfawrogi, a dysgu mwy am sut i gydweithio’n effeithiol ar bob cam o’r gadwyn gyflenwi – rhywbeth a fydd, yn y pen draw, yn cynyddu’r gwerth a ddarperir i gwsmeriaid.” 

Mae cyflenwyr eraill sydd wedi cofrestru ar y rhaglen yn cynnwys Dragon Cheese gan South Caernarfon Creameries, Popty Conwy Bakery, y cwmni diodydd o Gaerdydd Lowes Pop, a Radnor Hills. 

Dywedodd Gwynfor Evans, Rheolwr Marchnata Manwerthu y brand diodydd meddal o Bowys: “Rydym yn hynod gyffrous o fod yn rhan o’r rhaglen hon, ac yn gobeithio y bydd yn cryfhau ein perthynas ag Asda a’n cwsmeriaid ledled Cymru. 

“Mae arloesedd wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym yn bwriadu manteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth gan bartner mor allweddol wrth inni edrych tuag at y dyfodol.” 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gadernid Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd: “Mae gan Gymru sector bwyd a diod sy’n ffynnu ac yn tyfu, wedi’i adeiladu ar ansawdd, arloesedd ac uchelgais busnesau ledled y wlad. Bydd y bartneriaeth hon rhwng Asda a Bwyd a Diod Cymru yn darparu cymorth ymarferol, cyngor arbenigol a mewnwelediad masnachol gwerthfawr i gyflenwyr er mwyn eu helpu i gryfhau eu busnesau a chyrraedd mwy o gwsmeriaid. 

“Trwy ddatblygu ein Strategaeth Fwyd Genedlaethol, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â manwerthwyr a chefnogi cynhyrchwyr Cymru i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i dyfu, cystadlu a chyfrannu at ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru.” 

Share this page