Mae'r adroddiad, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2026, yn amlygu sut y gwnaeth tymheredd eithriadol, sychder ac aflonyddwch geopolitical greu risgiau a oedd yn gwaethygu ei gilydd, gan effeithio ar argaeledd cynhwysion, costau gweithredu a pharhad cynhyrchu. Mae'r canfyddiadau'n tanlinellu pwysigrwydd paratoi ar gyfer pwysau sy'n codi ar yr un pryd ar draws cyflenwyr amaethyddol, rhwydweithiau trafnidiaeth a safleoedd gweithgynhyrchu.
Cafodd y DU ei haf poethaf ar gofnod, yn ôl ffigurau dros dro, gyda thymheredd cyfartalog o 16.5°C. Ar 30 Gorffennaf, estynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei ddatganiad sychder i gynnwys Cymru gyfan, tra mai dim ond 30–70% o'r glawiad arferol a gafodd llawer o ardaloedd dros yr haf. Rhoddodd y gwres eithafol bwysau ar systemau rheweiddio ac oeri, cynyddodd y galw am ynni ac amharodd ar batrymau gwaith, gan effeithio ar lesiant staff, diogelwch bwyd ac ansawdd cynnyrch.
Bydd effeithiau'r haf ar amaethyddiaeth yn parhau ymhell ar ôl diwedd y tymor, gyda chynaeafau'r DU yn is na'r cyfartaledd. Mae llai o dyfiant glaswellt a'r angen i ddechrau defnyddio porthiant y gaeaf yn gynnar wedi golygu bod cynhyrchwyr da byw yn fwy agored i gostau prynu porthiant, gyda goblygiadau i gadwyni cyflenwi cig a chynnyrch llaeth.
Dramor, cofnododd gorllewin Ewrop ei haf cynhesaf, tra bod sychder eang yn yr Unol Daleithiau wedi effeithio ar ranbarthau pwysig sy'n cynhyrchu grawnfwydydd ac yn magu da byw. Cyflymodd y gwres ddatblygiad ac aeddfedu cnydau, tra bod prinder lleithder yn y pridd wedi cyfyngu ar eu twf. Mae'r datblygiadau hyn yn berthnasol i weithgynhyrchwyr yng Nghymru hyd yn oed pan fyddant yn prynu cynhwysion drwy gyflenwyr yn y DU, gan y gall y cynhwysion hynny ddod yn wreiddiol o'r un rhanbarthau tyfu sydd wedi'u heffeithio.
Mae gwrthdaro rhyngwladol wedi dwysáu'r pwysau hyn. Mae aflonyddwch o amgylch Culfor Hormuz a'r Môr Coch yn parhau i effeithio ar gyflenwadau ynni a llongau masnachol, tra bod ymosodiadau ar borthladdoedd y Môr Du wedi cyfyngu ar allforion grawn. Mae cyfyngiadau oherwydd sychder ar Gamlas Panama ac afonydd Ewropeaidd hefyd wedi creu tagfeydd trafnidiaeth ychwanegol, gan gynyddu'r ansicrwydd ynghylch costau ac amseroedd dosbarthu.
Mae'r darlun o ran prisiau nwyddau yn parhau'n gymysg. Erbyn mis Medi, roedd pris coco bron 50% yn uwch nag ar ddechrau 2026, pris gwenith gaeaf coch caled yr Unol Daleithiau tua 33% yn uwch, a phris gwrtaith diamoniwm ffosffad (DAP) 26% yn uwch. Mae prisiau coffi ac wrea wedi gostwng o'u lefelau uchel blaenorol, ond nid yw'r gostyngiadau diweddar yn rhoi llawer o sicrwydd. Mae costau diesel, trydan a nwy yn y DU yn parhau i roi pwysau ychwanegol ar brosesu, oeri a dosbarthu.
Dywedodd Linda Grant, Arweinydd Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd Bwyd a Diod Cymru: "Roedd yr haf hwn yn ddigynsail o ran gwres eithafol, gan effeithio ar y bobl, yr offer, y cynhwysion a'r cnydau y mae ein diwydiant yn dibynnu arnynt. Mae gennym gyfle i fyfyrio ar y gwersi o wres eithafol yr haf hwn.
"Mae angen i weithgynhyrchwyr bwyd a diod ddeall ble mae eu busnesau fwyaf agored i risgiau a pharatoi cyn i aflonyddwch ddigwydd. Mae diogelu staff, sicrhau cyflenwadau dibynadwy o ddŵr a systemau oeri, a chydweithio'n agos â chyflenwyr yn hanfodol er mwyn cynnal cynhyrchiant a chystadleurwydd. Yn gynyddol, mae gwydnwch yn wyneb newid yn yr hinsawdd hefyd yn golygu gwydnwch busnes ac ariannol."
Mae datblygiad ffenomen El Niño yn ychwanegu at yr ansicrwydd wrth edrych ymlaen at 2027, yn enwedig o ran coffi, coco, siwgr, reis ac olewau llysiau. Mae'r adroddiad yn annog gweithgynhyrchwyr i adolygu eu cyflenwyr allweddol, ffynonellau cyflenwi amgen, lefelau stoc, maint yr elw a llif arian, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o aeaf mwy stormus a gwlyb.
Dywedodd Rob Cumine, Rheolwr Gyfarwyddwr Capestone Organic: "Fe wnaeth ein gweithdy arweinyddiaeth diweddar ar Gydnerthedd Hinsawdd ein helpu i archwilio sut mae risgiau hinsawdd yn gysylltiedig â'i gilydd ar draws ein ffermydd, ein cadwyni cyflenwi, ein gweithrediadau prosesu a'n gweithlu.
"Mae neilltuo amser fel tîm arwain i ystyried yr heriau hyn gyda'n gilydd yn gam pwysig tuag at nodi camau ymarferol a chynlluniau hirdymor a fydd yn cryfhau ein gwydnwch ac yn diogelu ein busnes."
Mae'r Gwasanaeth Gwydnwch Hinsawdd yn cynnig sesiynau pwrpasol am ddim i dimau arwain gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, i'w helpu i asesu risgiau a datblygu camau ymarferol i ymateb iddynt.
Mae'r cymorth hefyd yn cynnwys hunanasesiad ar-lein o barodrwydd i addasu i'r hinsawdd, sy'n helpu busnesau i nodi ble maent yn agored i risgiau hinsawdd, yn ogystal â chyfleoedd posibl.
Mae modiwlau hyfforddi defnyddiol ar gael hefyd i helpu busnesau i baratoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt.
Gall busnesau gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â sustainablefd@gov.wales.