Mae Tumptonics Ltd, busnes o Sir Fynwy sydd y tu ôl i'r brand dŵr mewn caniau cynaliadwy Soleau, wedi sicrhau cytundeb cyflenwi label preifat gyda'r cyfanwerthwr blaenllaw Diverse Fine Food. Daeth y cytundeb yn sgil presenoldeb y cwmni fel Seren Newydd yn nigwyddiad allweddol Bwyd a Diod Cymru. 

Mae'r bartneriaeth eisoes wedi arwain at archeb o 30 paled ar gyfer yr Hamilton Princess Hotel & Beach Club mawreddog, yn Bermwda, ac mae'r llwyth cyntaf bellach ar ei ffordd ar draws yr Iwerydd. O dan y cytundeb label preifat, bydd Tumptonics Ltd yn cyflenwi ei ddetholiad premiwm o ddŵr ffynnon Cymreig – llonydd a phefriog – o dan yr enw Soleau. Daw'r dŵr o fryniau Sir Fynwy ac mae’n cael ei becynnu mewn caniau alwminiwm y gellir eu hailgylchu.

Dywedodd Llŷr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: "Un o brif amcanion Blas Cymru yw creu cyfleoedd masnachol ystyrlon i fusnesau bwyd a diod Cymreig, ac mae'r cytundeb allforio hwn yn enghraifft wych o'r uchelgais hwnnw'n cael ei wireddu.

Mae llwyddiant Tumptonics yn dangos ansawdd ac arloesedd ein sector bwyd a diod, a sut y gall busnesau Cymreig droi cysylltiadau gwerthfawr yn gyfleoedd ar gyfer twf rhyngwladol."

Bwyd a Diod Cymru sy’n trefnu Blas Cymru, ac mae’r digwyddiad yn dod â chynhyrchwyr a phrynwyr bwyd a diod o bob rhan o'r DU a marchnadoedd rhyngwladol ynghyd, gan helpu busnesau i feithrin perthnasoedd masnachol gwerthfawr a datgloi cyfleoedd twf newydd.

Dywedodd Sara Jones, Sylfaenydd Tumptonics Ltd: "Cafodd Tumptonics ei greu i helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n fferm deuluol yn Sir Fynwy drwy wneud y defnydd gorau o'r adnodd dŵr ffynnon naturiol sydd gennym ni ar y safle. Arweiniodd y daith honno at lansio Soleau, ein brand premiwm o ddŵr ffynnon Cymreig – llonydd a phefriog. Rhoddodd Blas Cymru gyfle amhrisiadwy i ni gyflwyno'r cynnyrch i brynwyr na fyddem ni efallai wedi cwrdd â nhw fel arall." 

"Mae'r berthynas rydym ni wedi'i datblygu gyda Diverse Fine Foods eisoes wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Mae gweld ein dŵr ffynnon Cymreig o'r radd flaenaf – sy'n cael ei gasglu a'i roi mewn caniau alwminiwm sy’n gallu cael eu hailgylchu ar y fferm – yn cyrraedd Bermwda, yn eiliad falch iawn ac yn garreg filltir arwyddocaol i'n busnes."

"Fel cwmni Cymreig ifanc, mae hyn yn dangos y cyfleoedd sy’n gallu cael eu creu pan mae cynhyrchwyr arloesol yn cael cyfle i gysylltu â phrynwyr o bob cwr o'r byd."

Tumptonic team members

Mae'r bartneriaeth yn enghraifft glir o'r cyfleoedd masnachol a all godi o Blas Cymru, sy'n cysylltu busnesau bwyd a diod Cymreig uchelgeisiol â phrynwyr sy'n chwilio am gynhyrchion arloesol o ansawdd uchel.

Ychwanegodd Nicki Stewart, o Diverse Fine Food: "Apeliodd ansawdd y cynnyrch, y rhinweddau cynaliadwyedd a chryfder y brand Soleau atom ni ar unwaith. Mae'r cynhyrchion wedi cael derbyniad gwych gan ein cwsmer yn Bermwda.

"Rydym ni wedi archebu 30 o baledi hyd yn hyn, ac mae'r llwyth cyntaf ar ei ffordd ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd. Dyma union bwrpas digwyddiadau fel Blas Cymru. Fyddem ni byth wedi dod ar draws Tumptonics oni bai am y digwyddiad hwn, a nawr rydym ni’n gweithio gyda'n gilydd i gyflenwi cwsmeriaid yn y DU a thu hwnt."

Cafodd Tumptonics Ltd ei sefydlu gan Sara Jones ar fferm ei theulu – sydd wedi bod yn nwylo'r teulu ers pum cenhedlaeth – ger Brynbuga, ble mae’n cynhyrchu Soleau, sef detholiad o ddŵr ffynnon Cymreig, llonydd a phefriog, sy'n dod o ffynnon sy'n cael ei hidlo'n naturiol ym mryniau Sir Fynwy. Caiff y dŵr ei roi mewn caniau alwminiwm yno, sy'n helpu i gadw'r ffresni ac yn cynnig dewis arall yn lle poteli plastig untro. Yn ogystal â'i frand ei hun, Soleau, mae'r busnes hefyd yn cynnig gwasanaethau label preifat a chaniau ar gontract i gwsmeriaid yn y sectorau gwasanaethau bwyd, lletygarwch a manwerthu.

Share this page