Cynhelir y Summer Fancy Food Show o 28–30 Mehefin 2026, a dyma arddangosfa fwyd a diod arbenigol fwyaf Gogledd America, sy’n denu mwy na 47,000 o weithwyr proffesiynol y diwydiant a dros 2,500 o arddangoswyr o bob cwr o'r byd. Mae'r digwyddiad yn cynnig llwyfan allweddol i fusnesau Cymru dyfu eu presenoldeb yn yr Unol Daleithiau, marchnad allforio bwyd a diod fwyaf Cymru y tu allan i'r UE. 

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd: “Mae’r Summer Fancy Food Show yn cynnig platfform eithriadol i arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru ar lwyfan byd-eang. Mae ein cynhyrchwyr yn enwog am eu hansawdd, eu tarddiad a’u harloesedd, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i gysylltu â phrynwyr rhyngwladol a thyfu allforion. 

“Gyda’r Unol Daleithiau yn parhau i fod yn farchnad allweddol i Gymru, mae cefnogi busnesau i fynychu digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i’w helpu i ehangu eu cyrhaeddiad, sicrhau contractau newydd ac adeiladu perthnasoedd masnachu hirdymor.” 

Bydd pum cynhyrchydd o Gymru yn bresennol ar stondin Cymru Wales (Lefel 3, Stondinau 2004–2012), gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ymhlith y cwmnïau sy'n mynychu mae Hybu Cig Cymru, Burts Gwalia Bakery, Ocean Bay Seafoods Ltd, Snowdonia Cheese a Mornflake Mighty Oats. 

Bydd y stondin hefyd yn cynnwys arddangosfa ehangach o gynhyrchion bwyd a diod o ansawdd uchel o Gymru, gan gynnwys Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, Halen Môn, Wafflau Tregroes, Welsh Lady Preserves, Aber Falls, Barti, AU Vodka, Village Bakery, Wholebake, Hilltop Honey, Meridian, Cygnet, Snowdonia Cheese a Mornflake Mighty Oats. Bydd arddangosiadau coginio byw a sesiynau blasu cynhyrchion yn digwydd drwy gydol y digwyddiad tridiau o hyd. 

Mae Gogledd America yn parhau i fod yn farchnad flaenoriaeth strategol i Gymru, gydag allforion bwyd a diod i'r Unol Daleithiau wedi dyblu dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’r Summer Fancy Food Show yn chwarae rhan bwysig wrth helpu cynhyrchwyr Cymru i feithrin perthnasoedd â phrynwyr a sicrhau cyfleoedd busnes newydd. 

Cafwyd canlyniadau llwyddiannus yn y gorffennol, gydag wyth busnes o Gymru wedi cael cymorth i fynychu yn 2024 a 2025. Dros y ddwy flynedd, arweiniodd hyn at fwy na 200 o gyfarfodydd gyda phrynwyr rhyngwladol, sicrhau £2.485 miliwn mewn gwerthiannau allforio, ac £11.6 miliwn pellach mewn gwerthiannau posibl, ochr yn ochr â £800,000 mewn gwerthiannau ychwanegol. Mae cwmnïau gan gynnwys Wrexham Lager eisoes wedi profi llwyddiant allforio yn dilyn presenoldeb y llynedd, sy’n tanlinellu gwerth hirdymor y digwyddiad. 

Wrexham Lager 2

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae Wrexham Lager, sy’n eiddo ar y cyd i’r actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi parhau i dyfu ei bresenoldeb yn yr Unol Daleithiau yn dilyn cefnogaeth i fynychu’r digwyddiad. 

Dywedodd Lawrence Williamson, Cyfarwyddwr Gwerthu Wrexham Lager: “Mae’r Summer Fancy Food Show wedi chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddatblygu ein presenoldeb yn yr Unol Daleithiau. Yn dilyn ein presenoldeb y llynedd, llwyddom i sicrhau gwerthiannau newydd yn yr Unol Daleithiau ac adeiladu perthnasoedd gwerthfawr gyda phartneriaid allweddol, sy’n parhau i gyflawni ar gyfer y busnes. 

“Rhoddodd y digwyddiad hefyd blatfform cryf i godi ymwybyddiaeth o frand Wrexham Lager ymysg prynwyr a dosbarthwyr, gan helpu i agor cyfleoedd pellach yn yr hyn sydd bellach yn farchnad ryngwladol allweddol i ni.” 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi busnesau bwyd a diod i dyfu'n rhyngwladol trwy ei rhaglen allforio, gan helpu i godi proffil Cymru fel cynhyrchydd bwyd a diod premiwm o ansawdd uchel. 

Am ragor o wybodaeth am allforio, ewch i'r adran allforio.

Share this page