Mae Ferrari's Coffee Roasters a Just Love Food Company wedi dod at ei gilydd er mwyn creu Traybake Tiramisu "rhydd rhag" blasus sy'n llawn coffi wedi'r rostio yng Nghymru ac sy'n addas ar gyfer anghenion deietegol arbennig.

Mae'r bartneriaeth honno wedi'i chydnabod gan Asda, a ddaeth y prif fanwerthwr cyntaf i ddod â chydweithrediad Ferrari's Coffee a Just Love Food Company i gwsmeriaid pan wnaeth lansio'r cynnyrch Ferrari's Coffee Roasters Tiramisu Traybake yn ei siopau yng Nghymru mis diwethaf.

Cafodd Ferrari's a Just Love Food eu dwyn ynghyd yn y lle cyntaf gan Raglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cyfleoedd a chefnogaeth i gynhyrchwyr o Gymru dyfu eu busnesau a chael mynediad at farchnadoedd prif fanwerthwyr a chyfanwerthwyr.

Dywedodd George Burdett, Pennaeth Gwasanaethau Bwyd Ferrari’s, " Mae'r Rhaglen Datblygu masnach yn rhoi mentora a chyngor amhrisiadwy i gynhyrchwyr o Gymru allu sicrhau rhestriad gyda manwerthwyr y DU law yn llaw â chyfleoedd i gydweithredu gyda chyd-gwmnïau bwyd a diod. 

"Oherwydd hynny, roedd ein llwybrau ni a Just Love Food wedi croesi mewn sawl digwyddiad a gynhaliwyd gan Bwyd a Diod Cymru. Ond yn y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr  Blas Cymru / Taste Wales wnaethom ni eistedd i lawr, ac o'r fan honno y dechreuodd ein sgwrs ynghylch cydweithredu ar gynnyrch newydd."

Mae Pennaeth Gwerthiant Just Love Food, Danika Woods, hefyd yn cydnabod y gefnogaeth gan Bwyd a Diod Cymru ar gyfer y sector sy'n cynyddu ac am ddod â chynhyrchwyr bwyd a diod o'r un anian ynghyd.

Meddai, "Mae mynd i ddigwyddiadau megis Blas Cymru / Taste Wales a gweld sector bwyd a diod mor wych sydd gennym ni wedi fy ysbrydoli i fod eisiau gweithio gyda busnesau eraill o'r un maint. Fe wnaeth ein perthynas gyda Ferrari’s ddatblygu'n aruthrol o sgyrsiau mewn digwyddiadau ar gyfer y diwydiant, ac mae wedi bod yn wych gweld y syniad yn symud o fod yn sgwrs rhwng George a minnau i fod yn gynnyrch gorffenedig gyda phrif  manwerthwr yn gefn iddo."

Wrth benderfynu ar gynnyrch i'w lansio, cytunodd y ddau y dylai gyfuno sgiliau, profiad a hanes eu cwmnïau.

Meddai George, "Rydym ni'n cynhyrchu coffi o'r radd flaenaf, ac maen nhw'n arbenigo mewn cynnyrch becws, felly roedd y syniad o ran y cynnyrch yn un syml - doedd dim arall amdani ond Tiramisu!"

Sefydlwyd Just Love Food Company, sydd wedi'i leoli yn y Coed Duon, yn 2010 gan Mike Woods mewn ymateb i alergeddau bwyd difrifol ei blant a'r ffaith nad oedd yn gallu dod o hyd i gacennau dathlu roedden nhw i gyd yn gallu eu rhannu.

Nawr mae un o brif wneuthurwyr cacennau dathlu cynhwysol y DU, Just Love Food Company, sy'n gwmni teuluol, yn arbenigo mewn rheoli alergeddau ac yn coginio cacennau sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o anghenion dietegol.

A hithau'n byw gydag alergeddau difrifol ei hun, mae Danika'n gwybod pa mor bwysig yw gallu prynu cynnyrch mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gymryd yn ganiataol. "Mae Tiramisu yn bwdin eiconig, ond hyd at nawr, dyw pobl sydd ag alergeddau bwyd ddim wedi gallu ei brynu."

Ychwanega, "O safbwynt twf y busnes, mae gweithio gyda Ferarri's yn ddatblygiad naturiol, yn arbennig felly gan fod ganddynt hwy hefyd hanes o fod yn cynhyrchu bwyd. Mae'r naill fusnes yn cyd-fynd yn dda gyda'r llall hefyd - rydym ni'n dod â phrofiadau manwerthu niferus, ac mae ganddyn nhw arbenigedd yn y sector gwasanaeth bwyd."

Tiramisu and mocha cupcakes

Y flwyddyn nesaf, bydd Ferrari's yn dathlu 100 mlynedd o rostio coffi yng Nghymru. Mae'r cwmni wedi aros yn driw i rysetiau Eidalaidd clasurol a dulliau traddodiadol rhostio drwm ei sylfaenydd Vittorio Ferrari, wnaeth gyflwyno coffi math cappuccino ac espresso i dde Cymru.

Hefyd, drwy'r gadwyn o gaffis oedd ganddo unwaith, roedd Ferrari's yn rhan boblogaidd o'r stryd fawr yn nhrefi ar hyd a lled de Cymru a'r cymoedd am ddegawdau.

Bellach yn gweithredu o dŷ rhostio sydd wedi'i adeiladu'n arbennig, ac sydd wedi'i achredu'n dŷ rhostio SALSA ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Ferrari’s Coffee Roasters yn cael ei arwain gan ei reolwr gyfarwyddwr ac un sydd wedi ymroi'n llwyr i goffi, Yash Dhutia. Mae pennod newydd wedi agor, sy'n canolbwyntio ar dyfu'r busnes wrth barhau i gynhyrchu cymysgedd Eidalaidd traddodiadol o goffi, gan gynnwys cymysgedd Piacentina.

Dywedodd George, "Mae enw Ferrari's yn dwy'n i gof llawer o atgofion hapus i genedlaethau o bobl yn ne Cymru, ac yn ogystal â'n coffi, mae pobl yn dal i sôn eu bod wedi mwynhau pastai neu gacen Ferrari’s. Dyna pam mae yna haen ychwanegol o arwyddocâd i'r Traybake Tiramisu - gan ei fod yn cynrychioli dychweliad symbolaidd at bobi a choginio cacennau i Ferrari’s.

"Nid ceisio ail-greu'r gorffennol ydym ni yn y fan yma. Rydym ni'n cymryd treftadaeth a phrofiad Ferrari’s a'i gymhwyso i genhedlaeth newydd o gynnyrch, sianeli newydd a chyfleoedd newydd. Mae'n atgoffa rhywun bod busnesau'n gallu datblygu, ailadeiladu, a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio'r profiad maen nhw wedi'i ennill ar y ffordd."

Meddai Danika, "Rydym ni wedi bod yn y sector bwyd a diod o Gymru am 16 mlynedd, gan ddatblygu yng Nghymru ac yna'n tyfu'n genedlaethol ac yn gwerthu cynnyrch ar hyd a lled y DU. Roedd un o'n rhestriadau rhanbarthol cyntaf ni gydag Asda. Felly, rydym ni wrth ein bodd eu bod wedi cydnabod y cydweithredu gyda Ferrari's Coffee a'u bod wedi lansio'r rysáit 'rhydd rhag' yn y Traybake Tiramisu sydd ar eu silffoedd yng Nghymru."

Mae Ferrari's a Just Love Food Company ill dau yn cymryd rhan yn Rhaglen Datblygu Cyflenwyr Asda a Bwyd a Diod Cymru.

A hwythau'n awyddus i dyfu'r bartneriaeth, mae gan Ferrari's Coffee a Just Love Food gynnyrch arall ar y cyd sydd eisoes yn barod i'w lansio. Yn dynn ar sodlau'r Traybake Tiramisu mae cacennau bach Mocha Americano, sydd newydd ymddangos yn siopau Asda yng Nghymru.

Meddai Danika, "Rydym ni'n anhygoel o falch o'r hyn rydym ni wedi'i greu gyda'n gilydd, ac rydym ni'n arbennig o falch bod y lansiad yn rhoi cyfle i ni arddangos cynhyrchu bwyd a chydweithredu yng Nghymru i gwsmeriaid ar hyd a lled Cymru."

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, "Mae hon yn enghraifft wych o'r arloesi, yr uchelgais a'r cydweithrediad sy'n gwneud sector bwyd a diod Cymru'n gymaint o lwyddiant. 

"Mae'n galonogol iawn gweld prif fanwerthwr fel Asda'n cefnogi'r bartneriaeth hon ac yn helpu i arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru i gwsmeriaid led-led Cymru. Mae mentrau fel Rhaglen Ddatblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn creu'r cyfleoedd hyn, gan gysylltu busnesau, cefnogi twf ac arddangos cryfder ein diwydiant bwyd a diod ffyniannus."

Dywedodd Maisie McNab, Masnachwr Asda dros Gymru, "Yn Asda rydym ni'n credu'n angerddol mewn hyrwyddo cyflenwyr lleol gwych a helpu i ddod â'r gorau o blith cynnyrch o Gymru i'n cwsmeriaid. Mae'r cydweithrediad hwn rhwng Ferrari's Coffee Roasters a Just Love Food yn enghraifft wych o ddau fusnes o Gymru'n dod ynghyd i greu rhywbeth arloesol, o safon uchel ac sy'n gynhwysol. 

"Rydym yn falch o gefnogi cynnyrch o darddiad lleol sydd nid yn unig yn dangos y doniau sy'n bodoli o fewn diwydiant bwyd a diod Cymru, ond hefyd yn cynnig cynnyrch newydd cyffrous i'n cwsmeriaid sy'n dathlu treftadaeth a chrefftwaith o Gymru."

Share this page