Mae gwinllan deuluol o Sir Benfro wedi creu hanes yn y byd gwin Cymreig drwy ennill medal aur a thlws categori mawreddog yng Ngwobrau rhyngwladol pwysig Glass of Bubbly 2026.

Enillodd Cuvée Reserve 2022 o Winllan Velfrey fedal aur a'r Tlws Winter Warmer – camp eithriadol mewn cystadleuaeth sy'n denu siampên a gwinoedd pefriog o rai o ranbarthau cynhyrchu gwin enwocaf y byd.

Cyn cystadleuaeth eleni, nid oedd yr un gwin Cymreig erioed wedi ennill tlws yn Glass of Bubbly; mae llwyddiant Velfrey felly’n garreg filltir bwysig i ddiwydiant gwin y wlad, sydd ar gynnydd.

I gwblhau noson eithriadol i'r cynhyrchydd bach o Sir Benfro, enillodd Velfrey Rhosyn 2023 a Velfrey NV fedalau arian, sy'n golygu bod y winllan wedi ennill gwobrau ar gyfer pob un o'r tri gwin a gyflwynwyd.

Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni yn Llundain ddydd Gwener 23 Hydref.

Cystadlu yn erbyn goreuon y byd

A hwythau’n dathlu eu degfed pen-blwydd, mae Gwobrau Glass of Bubbly yn gystadleuaeth ryngwladol fawr ei pharch sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar siampên a gwinoedd pefriog.

Mae'r gystadleuaeth yn denu ceisiadau o ranbarthau cynhyrchu gwin hen a newydd ledled y byd, gyda gwinoedd o fwy na 30 o wledydd wedi cymryd rhan dros y blynyddoedd. Mae paneli beirniadu rhyngwladol y gystadleuaeth wedi asesu mwy na 3,000 o winoedd.

Yn wahanol i gystadlaethau sy'n gyfyngedig i winoedd Prydeinig, mae Glass of Bubbly yn rhoi cynhyrchwyr Cymreig mewn cystadleuaeth uniongyrchol â siampên a gwinoedd pefriog eraill o rai o ranbarthau gwin enwocaf y byd.

Mae'r broses feirniadu’n hynod drylwyr. Caiff y gwinoedd eu blasu'n ddall gan baneli sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol rhyngwladol yn y maes, gan gynnwys somelieriaid profiadol, addysgwyr gwin ac arbenigwyr eraill.

Yn y cam cyntaf, caiff pob gwin ei asesu ar gyfer ei ansawdd a'r fedal y mae'n ei haeddu. Yna, caiff y gwinoedd sydd wedi ennill gwobrau eu gwerthuso eto o fewn categorïau penodol, sy'n adlewyrchu eu proffiliau blas a'r achlysuron lle byddent orau i'w mwynhau.

Mae'r categorïau hyn yn amrywio o Classic & Elegant a Gastronomic i Summer Days, Meditation a Winter Warmer.

Dim ond y gwin sy'n cael y sgôr uchaf ym mhob categori sy'n derbyn y tlws; felly, mae ennill categori’n anrhydedd arbennig o arwyddocaol.

Medal aur – a thlws – i Velfrey Cuvée Reserve 2022

Gwnaeth y Cuvée Reserve 2022 gan Velfrey – a enillodd y tlws – argraff ar y beirniaid gyda'i gymeriad cyfoethog ac aml-haenog, gan sicrhau'r wobr uchaf yn y categori Winter Warmer.

Mae'r categori hwn yn dathlu gwinoedd pefriog sydd â blasau mwy llawn, dyfnder, cynhesrwydd a chymhlethdod – gwinoedd sy'n arbennig o addas i'w mwynhau mewn awyrgylch hamddenol ar noson o aeaf.

Mae nodiadau blasu'r beirniaid yn disgrifio aroglau blodau afal, sitrws oren, croen lemwn a nodweddion cnau, ac yna haenau o afalau melys a brioche ffres.

Mae'r gwin yn gorffen gyda blasau cyfoethog o afalau wedi'u pobi, praline cnau cyll, caramel a theisen frau.

Mae'n arddull sy'n dangos y soffistigeiddrwydd a'r cymhlethdod sydd bellach yn cael eu cyflawni gan winoedd pefriog Cymreig.

Mae ennill medal aur a'r Tlws Winter Warmer  yn gamp nodedig, nid yn unig i Velfrey, ond i'r diwydiant gwin Cymreig sy'n tyfu.

Dwy fedal ryngwladol arall i Sir Benfro

Cafodd llwyddiant Velfrey ei gadarnhau ymhellach gan fedalau arian ar gyfer dau win arall.

Velfrey Rhosyn 2023 – Arian, categori Summer Days

Cafodd y gwin rosé pefriog o'r winllan gydnabyddiaeth am ei gymeriad ffres, bywiog sy'n llawn blas ffrwythau.

Nododd y beirniaid aroglau cain o geirios gwyn, blodau ceirios a phetalau rhosod ffres, ynghyd ag aeron coch, mefus aeddfed, pomgranad ac awgrym o brioche.

Ar y daflod, mae blasau mefus gwyllt a chyrens cochion yn rhoi cymeriad haf adfywiol i'r gwin.

Velfrey NV – Arian, categori Meditation

Enillodd gwin pefriog NV Velfrey a wnaed yn y dull traddodiadol – fedal arian yn y categori Meditation. Mae'r categori hwn yn cydnabod gwinoedd sy'n gwobrwyo mwynhad araf a meddylgar, ac sy'n datgelu mwy o gymhlethdod wrth iddynt ddatblygu yn y gwydr.

Nododd y beirniaid aroglau o fêl, mango, teisen afal, blodau ysgaw, gellyg a bricyll, gyda haenau o flasau brioche, croissant a bisgedi ar y daflod, wedi'u hategu gan nodau sitrws a ffrwythau euraidd crensiog.

Mae'r ddwy fedal arian yn tanlinellu cysondeb ac amlochredd detholiad gwinoedd pefriog Velfrey.

Eiliad falch i win Cymreig

Dywedodd Fiona Mounsey o Winllan Velfrey, "Mae hon yn eiliad eithriadol i ni, ac yn rhywbeth rydym ni’n hynod falch ohono.

"Cyn eleni, doedd yr un gwin Cymreig erioed wedi ennill tlws yn Glass of Bubbly, felly mae cyflawni'r anrhydedd hon yn wych. Mae cyflawni hyn wrth gystadlu yn erbyn siampên a gwinoedd pefriog rhagorol o bob cwr o'r byd yn fwy nag y gallem fod wedi gobeithio amdano." 

Yr hyn sy'n gwneud hyn yn arbennig iawn yw natur ryngwladol y gystadleuaeth. Nid gwobrau ar gyfer gwin Cymreig neu Brydeinig yn unig yw'r rhain. Cafodd ein gwinoedd eu beirniadu'n ddall, ar eu rhinweddau eu hunain, ochr yn ochr â rhai o'r siampên a'r gwinoedd pefriog sy'n cael eu parchu fwyaf yn y byd.

"Mae'r ffaith bod gwinllan fach, deuluol yn Sir Benfro wedi ennill y gydnabyddiaeth hon yn galonogol iawn, a gobeithiwn y bydd yn helpu i godi proffil gwin Cymreig yn rhyngwladol.

"Rydym ni hefyd wrth ein bodd bod pob un o'n tri chais wedi ennill medalau. Mae'n gadarnhad gwych o ansawdd a chysondeb y gwinoedd rydym ni’n eu cynhyrchu yma yng ngorllewin Cymru."

Gwin Cymreig ar y llwyfan rhyngwladol

Mae'r gwobrau diweddaraf yn ychwanegu at restr gynyddol o anrhydeddau i Winllan Velfrey; mae ei gwinoedd eisoes wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Decanter World Wine, Gwobrau WineGB a Gowbrau Gwin Cymru.

Yn y gorffennol cafodd Velfrey NV hefyd ei ddewis ymhlith y 100 o winoedd gorau yn y DU gan WineGB, ac fe'i henwyd fel y Gwin Gwyn Pefriog Gorau yng Ngwobrau Gwin Cymru 2024.

Wedi'i leoli yng nghefn gwlad Sir Benfro, dim ond ychydig filltiroedd o'r arfordir, mae Velfrey yn rhan o genhedlaeth newydd o winllannoedd Cymreig sy'n dangos potensial y diwydiant gwin sy'n datblygu yng Nghymru.

Daw'r gydnabyddiaeth ryngwladol ddiweddaraf ar adeg gyffrous i'r busnes, sy'n parhau i ddatblygu ei allu i gynhyrchu gwin, gyda gwindy newydd wedi'i sefydlu yn y winllan.

Cynhyrchir ei winoedd pefriog gan ddefnyddio'r dull traddodiadol, lle mae eplesiad eilaidd yn digwydd yn y botel – yr un dull a ddefnyddir i gynhyrchu siampên. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y winllan gynlluniau hefyd i arloesi wrth gynhyrchu gwin pefriog drwy ddefnyddio dull Charmat yng Nghymru – y dechneg a wnaed yn enwog gan Prosecco – fel rhan o'i fuddsoddiad yn y gwindy newydd ar y safle.

Mae'r winllan yn tyfu grawnwin sy'n addas ar gyfer hinsawdd Cymru, gan gynnwys Seyval Blanc a Pinot Noir, ac mae'n rhoi pwyslais cryf ar ansawdd, cynaliadwyedd, ac ar adlewyrchu cymeriad ei leoliad yng ngorllewin Cymru.

Gyda medal aur hanesyddol, tlws rhyngwladol a dwy fedal arian, mae Velfrey wedi dangos bod gwin pefriog Cymreig yn gallu cystadlu'n llwyddiannus ar y llwyfan byd-eang.

Share this page