Wedi'i ddatblygu gan Well-Fed gyda chefnogaeth buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Moondance, mae'r cyfleuster newydd yn gam mawr ymlaen ar gyfer cynhyrchu bwyd cynaliadwy yng Nghymru a bydd yn galluogi'r sefydliad i ehangu ei gynhyrchiad o brydau iach a fforddiadwy, wrth arloesi dulliau newydd o leihau gwastraff bwyd a chynyddu gwydnwch bwyd.
Disgwylir i'r cyfleuster cynhyrchu bwyd ddod y gweithrediad mwyaf o'i fath yn y DU. Bydd yn cynyddu cynhyrchiad a dosbarthiad prydau parod maethlon a wneir gan ddefnyddio bwyd dros ben o bob cwr o'r rhanbarth, gan helpu i fynd i'r afael â gwastraff bwyd wrth gefnogi cymunedau ledled gogledd Cymru.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol, yn cefnogi twf economaidd ac yn creu llwyfan ar gyfer ehangu yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae Well-Fed yn cyflogi 24 o bobl, gan gynnwys 18 o weithwyr lleol a oedd yn ddi-waith o'r blaen, a bydd y cyfleuster estynedig yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad pellach.
Dywedodd Robbie Davison, Cyfarwyddwr Well-Fed, "Mae'r cyfleuster newydd hwn yn cynrychioli buddsoddiad mawr yn nyfodol Well-Fed ac yn creu'r capasiti sydd ei angen arnom i dyfu, arloesi a chyrraedd mwy o gymunedau ledled Cymru.
"Wrth i'r galw barhau i gynyddu, bydd y safle newydd yn ein galluogi i ehangu cynhyrchiant, creu cyfleoedd am swyddi a datblygu ffyrdd newydd o droi bwyd dros ben yn brydau iach a fforddiadwy. Rydym ni’n falch o fod yn dangos sut y gall arloesedd yn y sector bwyd sicrhau twf economaidd, manteision amgylcheddol ac effaith gymdeithasol gadarnhaol."
Mae dull arloesol y safle’n cyfuno gweithgynhyrchu bwyd ag egwyddorion economi gylchol, gan helpu i ailddefnyddio cynhwysion dros ben a fyddai fel arall yn cael eu gwastraffu. Disgwylir i'r safle brosesu hyd at 500 tunnell o fwyd dros ben yn flynyddol, gyda chefnogaeth technolegau a systemau newydd a gynlluniwyd i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.
Mae'r cyfleuster hefyd yn cefnogi ymdrechion i leihau effaith amgylcheddol trwy fentrau gan gynnwys cyflwyno hambyrddau metel y gellir eu hailddefnyddio, y disgwylir iddynt ddisodli hyd at 160,000 o hambyrddau plastig untro dros y ddwy flynedd nesaf.
Ers ei sefydlu yn 2019, mae Well-Fed wedi cyflenwi mwy na miliwn o brydau bwyd ffres i aelwydydd sy'n wynebu ansicrwydd bwyd. Mae'r sefydliad yn cynnig mwy na 140 o opsiynau prydau bwyd a aseswyd yn faethol ac yn gweithredu un o'r unig wasanaethau prydau parod ar raddfa fawr yn y DU sy'n rhydd o gynhwysion wedi'u prosesu'n helaeth.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd AS, a agorodd y cyfleuster cynhyrchu bwyd newydd yn swyddogol, "Mae gan Gymru ddiwydiant bwyd a diod balch, gyda busnesau ledled y wlad yn gyrru arloesedd, yn creu swyddi ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n heconomi.
"Mae'r buddsoddiad hwn gan Well-Fed yn dangos sut y gall busnesau bwyd Cymru gyfuno twf masnachol â chyfrifoldeb amgylcheddol a budd cymunedol. Bydd y cyfleuster newydd hwn yn helpu i gryfhau'r gallu i gynhyrchu bwyd yng ngogledd Cymru, yn cefnogi cyfleoedd am swyddi ac yn arddangos y dulliau arloesol sy'n cael eu datblygu yma yng Nghymru i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu ein system fwyd.
"Mae cefnogi busnesau i dyfu, arloesi a buddsoddi mewn atebion cynaliadwy’n ganolog i'n huchelgeisiau ar gyfer sector bwyd a diod Cymru, ac rwy'n falch iawn o weld y cyfleuster newydd trawiadol hwn yn agor yn swyddogol."