Mae diwydiant diodydd Cymru yn eang ac yn gymhleth gydag is-sectorau amrywiol gan gynnwys cwrw, gwin, seidr a pherai, gwirodydd, diodydd meddal, sudd ffrwythau, dŵr potel, diodydd poeth, diodydd llaeth a diodydd heb laeth.

Mae busnesau o bob un o'r is-sectorau diodydd yn dod ynghyd o dan ymbarél Diodydd i ffurfio Grwpiau Diddordeb Arbennig a gweithio ar y cyd ar y prosiectau strategol.

Glass of beer

Tra bod y Grwpiau Diddordeb Arbennig yn nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â blaenoriaethau strategol o fewn eu sectorau, mae rhai camau trawsbynciol y mae Clwstwr y Diodydd yn eu gweithredu, megis:

  • Galluogi a chynyddu arloesedd i gynhyrchu diodydd unigryw o ansawdd uchel
  • Cefnogi i ehangu busnesau diodydd sydd â photensial uchel
  • Datblygu brandiau Cymreig - gartref a thramor
  • Gwella sgiliau a gwybodaeth ar draws y diwydiant i hybu arloesedd ac ansawdd.

I gael rhagor o wybodaeth am Glwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, cysylltwch â arweinydd y clwstwr: mark.grant@levercliff.co.uk

Spirits with herbs

Straeon cysylltiedig

Clwstwr Allforio

Mae cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cynhyrchion o ansawdd uchel i'r byd, gyda tharddiad cryf a stori i'w hadrodd am o ble mae eu bwyd yn dod.

cooked lobster

Clwstwr Bwyd Da

Mae’r Clwstwr Bwyd Da yn cynnig llwyfan i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol Cymru nodi a datrys problemau cyffredin gyda'i gilydd trwy rannu gwybodaeth, hyfforddiant a manteisio ar gyfleoedd masnachol ar y cyd fel clwstwr.

mushrooms

Clwstwr Garddwriaeth

Nod y Clwstwr Garddwriaeth yw meithrin cyfleoedd ar gyfer cydweithio Busnes i Fusnes o fewn y gadwyn gyflenwi.

Wilted watercress with mechoui Welsh Lamb and harissa

Clwstwr NutriWales

Mae Clwstwr NutriWales yn cysylltu cynhyrchwyr bwyd a diod, y byd academaidd a'r llywodraeth i ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu, arloesedd, mewnwelediad a deallusrwydd, a thwf yn y gofod marchnad lle mae bwyd, iechyd, maeth a lles yn cwrdd.