Hyfforddiant un-i-un
Rydym yn cynnig hyfforddiant un-i-un, wedi’i ariannu’n llawn, ar gyfer eich busnes. Bydd ein harbenigwyr yn ymweld â’ch safle ac yn helpu chi i adnabod meysydd penodol o fregusrwydd o fewn eich busnes, er mwyn arbed amser a chanolbwyntio ar eich gofynion addasu a gwydnwch unigryw. Archebwch eich sesiwn nawr: bwyd-food@bic-innovation.com
Barod ar gyfer newid hinsawdd – pecyn cymorth gwydnwch hinsawdd ar gyfer manwerthwyr bwyd a diod annibynnol
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig fframwaith rhagarweiniol syml i greu:
- Asesiad risg newid hinsawdd ar gyfer eich busnes
- Cynlluniau tymor byr a thymor hir (i liniaru risgiau a manteisio ar gyfleoedd)
- Monitro ac adolygu eich cynnydd
Lawrlwythwch ein pecyn cymorth ar gyfer manwerthwyr bwyd a diod annibynnol.
Lawrlwythwch
Attached files
Mae tonnau gwres yma i aros – a yw eich busnes yn barod?
Mae Cymru eisoes wedi profi dwy don wres eleni, gyda thymheredd anarferol o uchel yn cyrraedd yn gynharach nag y byddem wedi’i ddisgwyl yn draddodiadol. Wrth i’n hinsawdd newid, mae tonnau gwres yn debygol o ddod yn amlach, para’n hirach a bod yn fwy dwys. I weithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, mae hyn yn peri risg gynyddol i les gweithwyr, prosesau cynhyrchu a gwydnwch busnes.
Lawrlwythwch ac argraffwch ein poster Ymwybyddiaeth o Straen Gwres, a’i arddangos mewn mannau y mae eich staff yn eu defnyddio. Mae’r poster yn cynnwys dolenni at ganllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adnoddau ymarferol ar addasu i’r newid yn yr hinsawdd.