Pam ddylai fy musnes addasu i newid yn y hinsawdd?
Mae busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod yn ymdrechu i reoli eu gweithrediadau mewn ffyrdd cynaliadwy. O leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni yn y broses weithgynhyrchu, a lleihau’r defnydd o ddŵr, i adolygu polisïau cyrchu ar gyfer deunyddiau crai a phecynnu — mae busnesau’n gweithredu i liniaru eu heffeithiau amgylcheddol ac arafu’r gyfradd newid hinsawdd.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymdrechion ar y cyd hyn, mae newid yn y hinsawdd yn rhywbeth na ellir ei osgoi bellach ac fe fydd yn parhau i effeithio ar Gymru yn y blynyddoedd i ddod. Felly mae’n bwysig, wrth i ymdrechion i liniaru newid yn y hinsawdd barhau, bod eich busnes hefyd yn addasu i’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n codi.
Er mwyn annog busnesau i ddod yn fwy ymwybodol o’r hinsawdd yn eu gweithgareddau beunyddiol, rydym wedi datblygu cyfres o fodiwlau hyfforddiant i roi cymorth ymarferol i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau sydd eu hangen i ymdopi’n llwyddiannus â digwyddiadau annisgwyl.
Sut i ddefnyddio’r modiwlau hyfforddiant
Mae’r modiwlau hyfforddiant wedi’u cynllunio fel canllawiau i’ch helpu i asesu eich busnes yng nghyd-destun newid yn y hinsawdd.
Er bod pob busnes bwyd a diod yn unigryw, gobeithiwn y bydd dewis a gweithredu ar y modiwlau mwyaf perthnasol i’ch busnes yn eich helpu i greu fframwaith i benderfynu pa addasiadau sydd eu hangen i wneud eich busnes yn fwy gwydn i newid hinsawdd — yn awr ac yn y dyfodol.
Drwy gydol y modiwlau fe welwch enghreifftiau, cyfeiriadau a dolenni i restrau gwirio a thempledi y gellir eu golygu i’ch cynorthwyo wrth asesu a gweithredu’r newidiadau a ddymunir yn eich busnes.