Cynhyrchir 'Perai Cymreig Traddodiadol' yng Nghymru o sudd gellyg perai wedi'u gwasgu o unrhyw amrywiaeth o ellyg brodorol neu anfrodorol a dyfir yng Nghymru drwy ddull cynhyrchu traddodiadol. Gwneir Perai Cymreig Traddodiadol o sudd gellyg perai sy'n gwbl bur. Mae tyfu gellyg perai, cynhyrchu sudd o'r gwasgiad cyntaf, y broses eplesu a gorffen y perai i gyd yn digwydd yn yr ardal ddaearyddol ddiffiniedig. Yn nodedig, caiff purdeb y cynnyrch hwn ei ddiogelu oherwydd ni chaniateir ychwanegu crynodiad ffrwyth, siwgrau, melysyddion, lliw a charbonadu artiffisial ymhlith elfennau eraill.
Yn nodweddiadol, mae lliw "Perai Cymreig Traddodiadol" yn amrywio o felyn gwan, bron yn ddi-liw i aur tywyll. Mae ganddo flas gellyg ffrwythus ysgafn neu gyflawn amlwg sy'n gytbwys yn y geg gyda melyster naturiol oherwydd cynnwys sorbitol y gellyg perai a ddefnyddir, ac asidrwydd sitrws ac arogl ffrwythus ysgafn.
Dyfarnwyd y ddiod hon, sydd wedi'i thrwytho yn hanes Cymru, â statws PGI yn 2017 er mwyn gwella dealltwriaeth ynghylch y gelfyddyd o greu Perai a gwerthfawrogiad tuag ati.