Mae cynlluniau Dynodiad Daearyddol y DU, a sefydlwyd yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, yn cynnwys:
- Bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol
- Gwirodydd
- Gwin
- Gwin a bersawrwyd
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ceisio ymestyn y portffolio o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru sydd eisoes â nod Gwybodaeth Ddaearyddol y DU, gan roi cyngor arbenigol ar sut i gymhwyso a gwneud cais am le ar y rhestr bwysig hon. Unwaith y byddwch yno, byddwch yn gallu atgyfnerthu eich hyrwyddiad gyda phresenoldeb effeithiol iawn ar-lein ac mewn digwyddiadau allweddol a chymryd y cam nesaf o wneud cais am statws Gwybodaeth DdaearyddoI yr UE. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru
Ewch i'n hadran GI i ddysgu mwy am y teulu o gynhyrchion sy'n tyfu'n gynyddol ac yn arddangos diwydiant bwyd a diod Cymru i'r byd.