Yn un o aelodau cynharaf y teulu Dynodiad Daearyddol, dyfarnwyd Tatws Cynnar Sir Benfro â statws PGI yn 2013. Nid unrhyw datws mo'r rhain, cânt eu tyfu yn Sir Benfro drwy ddulliau traddodiadol ac effaith gynhesu naturiol y môr sy'n caniatáu dechrau cynharach i'r tymor tyfu ac yn lleihau'r tebygolrwydd o rewi. Mae pridd Cymreig Sir Benfro yn gynhenid ffrwythlon, yn draenio'n rhydd ac yn gweithio'n rhydd.

Mae casglu a chynaeafu'r tatws unigryw hyn yn gofyn cydbwysedd meistrolgar o ddulliau traddodiadol ac arloesedd - mae tyfu Tatws Cynnar Sir Benfro yn gyfuniad o wyddoniaeth a chelfyddyd. Yn wir, mae arbenigedd lleol wedi'i drosglwyddo drwy genedlaethau o ffermwyr yn Sir Benfro ers y 1700au.

Wedi'u tyfu'n uniongyrchol o ddeunydd tirlun Cymru, yn aml caiff y tatws bychain, llachar hyn eu tynnu â llaw ar ddechrau'r tymor er mwyn gwarchod eu crwyn tyner. Pan gaiff y tatws hyn sy'n gyfwerth ag aur Cymreig eu coginio, mae arogl daearol a gwead llyfn, hufennog iddynt.

Straeon cysylltiedig

PGI Welsh Beef

Cig Eidion Cymru PGI

Cig Eidion Cymreig oedd yn cynnal fflam PGI yng Nghymru gan mai dyma'r cynnyrch cyntaf i gyflawni'r statws. Ymddengys bod hyn yn gydnabyddiaeth addas i gynnyrch sy'n ffurfio rhan arbennig o bwysig o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

PGI Welsh Lamb

Cig Oen Cymru PGI

Does dim yn fwy eiconig na Chig Oen Cymreig. Mae defaid ac ŵyn Cymreig yn ffurfio rhan sylfaenol yn hanes, treftadaeth, a diwylliant Cymru.

Two whisky glasses

Wisgi Brag Sengl Cymreig (PGI)

Fel y gwirod Cymreig a Phrydeinig cyntaf i gael statws GI (Dynodiad Daearyddol), mae ‘Wisgi Brag Sengl Cymreig’ yn cael ei gydnabod yn y wlad hon ac yn rhyngwladol fel cynnyrch o ansawdd unigryw.