Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, datblygodd y gwneuthurwr cacennau heb alergenau Gynllun Lleihau Carbon er mwyn deall ei allyriadau'n well a nodi cyfleoedd ymarferol i leihau ei effaith amgylcheddol ar draws y busnes.
Ymgorffori cynaliadwyedd mewn twf busnes
Wedi'i sefydlu gan Michael Woods ar ôl i'w ddau blentyn gael diagnosis o alergeddau difrifol, mae'r cwmni wedi tyfu o fod yn genhadaeth bersonol i fusnes llwyddiannus sy'n cyflenwi cacennau dathlu a nwyddau pobi heb alergenau i fanwerthwyr mawr yn y DU.
Wrth i gynaliadwyedd ddod yn ystyriaeth gynyddol bwysig i fanwerthwyr a defnyddwyr, mae Just Love Food wedi ymrwymo i leihau allyriadau tra'n sicrhau bod y cynhyrchion yn parhau i fod yn fforddiadwy. Hwn hefyd yw'r busnes cyntaf a gefnogwyd drwy'r rhaglen i ddatblygu Cynlluniau Lleihau Carbon olynol, sy'n dangos ei ymrwymiad i fesur cynnydd a pharhau i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliant.
Deall ble gall newid wneud gwahaniaeth
Drwy ddadansoddi ei ddata ar gyfer 2024 a 2025, roedd Just Love Food yn deall ei ôl troed carbon yn well, a ble roedd allyriadau'n cael eu cynhyrchu ar hyd a lled y busnes. Helpodd hynny’r cwmni i ganolbwyntio ar feysydd lle gallai newidiadau ymarferol gael yr effaith fwyaf. Fel mae Michael yn egluro: "Roedd deall sefyllfa bresennol y busnes yn bwysig iawn i mi. Mae pawb yn sôn am ôl troed carbon a yn darllen amdano, ond a dweud y gwir, doeddwn i ddim yn ei ddeall nes i ni ddechrau ar y Cynllun Lleihau Carbon.
"Gyda'r ddealltwriaeth honno, roeddem ni’n gallu canolbwyntio ar y meysydd lle roedd gennym ni reolaeth, a lle gallai newidiadau wneud gwahaniaeth gwirioneddol."
Mae pawb yn sôn am ôl troed carbon a yn darllen amdano, ond a dweud y gwir, doeddwn i ddim yn ei ddeall nes i ni ddechrau ar y Cynllun Lleihau Carbon.
Troi lleihau carbon yn effeithlonrwydd busnes
Dau faes a nodwyd ar gyfer gweithredu oedd gwastraff a chludiant.
Drwy fesur faint o wastraff oedd yn cael ei gynhyrchu a deall ei effaith, llwyddodd y cwmni i nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd a lleihau allyriadau cysylltiedig.
Bu gwelliant amlwg ym maes cludiant hefyd. Drwy wneud newidiadau i ddeunydd pacio a'r ffordd y trefnir cynhyrchion ar baledi, cynyddodd Just Love Food faint o gynhyrchion sy’n cael eu cludo ar bob paled o 25%. Gostyngodd hyn effaith carbon y broses ddosbarthu, tra hefyd yn gwneud gwell defnydd o'r gofod sydd ar gael.
I Michael, mae dod o hyd i atebion sy’n gwneud synnwyr masnachol yn ogystal ag amgylcheddol yn arbennig o bwysig:
“Mae’n rhaid i chi allu dangos nad yw’r pethau hyn yn ychwanegu costau yn y pen draw.”
“Mae pethau’n anodd i ddefnyddwyr ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i leihau ein hôl troed carbon tra hefyd yn rheoli costau. Yn ffodus, rydym ni wedi dod o hyd i ambell faes lle mae hynny wedi bod yn gwbl bosibl."
Gwneud cynnydd wrth barhau i dyfu
Efallai mai’r peth mwyaf arwyddocaol yw bod Just Love Food wedi profi gwelliant yn ei ôl troed carbon yn 2025 o’i gymharu â 2024, er gwaethaf ehangu ei allu i bobi yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae’r profiad hefyd wedi helpu i wneud lleihau carbon yn rhan fwy diriaethol o’r broses o wneud penderfyniadau busnes bob dydd. Drwy ddeall ei allyriadau a chanolbwyntio ar newidiadau y gellir eu cyflawni, mae’r cwmni’n dangos sut y gall cynaliadwyedd a thwf busnes gyd-fynd â’i gilydd.
Mae Michael yn annog busnesau eraill – yn enwedig busnesau bach a chanolig nad oes ganddynt adnoddau pwrpasol ar gyfer cynaliadwyedd – i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael,
"Ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen a deall sefyllfa bresennol y busnes, byddwn yn annog eraill i wneud yr un peth; yn enwedig busnesau bach a chanolig, lle efallai nad oes gennych yr adnoddau i wneud y gwaith eich hun ac i’w wneud yn dda."
I Just Love Food, mae lleihau carbon yn dod yn rhan o’r ffordd mae’r busnes yn gweithredu ac yn tyfu. Mae hyn yn ei helpu i nodi ffyrdd o weithio’n fwy effeithlon, lleihau ei effaith ar yr amgylchedd, a gwneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer y dyfodol.
Ydy eich busnes chi’n awyddus i ddatblygu cynllun lleihau carbon?
Gwellwch eich arferion cynaliadwyedd gyda'n Peilot Lleihau Carbon. I gael arweiniad a chymorth arbenigol, anfon e-bost at SustainableFD@gov.wales gyda “Peilot Cynlluniau Lleihau Carbon” yn y llinell bwnc.