Hanes y cwmni
Mae Ellis Eggs yn gwmni sefydledig â hanes cyfoethog sy'n ymestyn dros tua 60 mlynedd. Yn wreiddiol yn fusnes teuluol, newidiodd ddwylo yn 2024. Mae'r cwmni'n cyflogi tua 30 o bobl, gyda chymysgedd o staff rhan-amser a llawn-amser. Mae Ellis Eggs yn gwasanaethu'r diwydiant gwasanaeth bwyd yn bennaf, sy'n cyfrif am tua 70% o'i waith, tra bod y rhan sy'n weddill o'i fusnes wedi'i neilltuo i gyflenwi i'r holl archfarchnadoedd mawr.
Cymryd rhan yn y Cynllun Peilot Lleihau Carbon
Gwahoddwyd Ellis Eggs i gymryd rhan yn y Cynllun Peilot Lleihau Carbon, menter a gynlluniwyd i helpu cwmnïau i leihau eu hôl troed carbon a hyrwyddo ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio. Derbyniodd y cwmni'r gwahoddiad yn eiddgar, gyda’r penderfyniad wedi'i yrru gan ymagwedd ragweithiol tuag at gyfrifoldeb amgylcheddol.
Fel rhan o'i ymdrechion cynaliadwyedd, mae Ellis Eggs eisoes wedi gosod paneli solar ac wedi rhoi arferion ailgylchu helaeth ar waith. Defnyddiwyd y Cynllun Lleihau Carbon ymarferol gan Ellis Eggs i gyfathrebu â'i gwsmeriaid am y llwyddiant hwn. Anfonwyd copi o'r Cynllun Lleihau Carbon at ei holl gwsmeriaid, yn amlinellu'r mesurau sydd ar waith a'r camau ymarferol i leihau carbon.
Mae Ellis Eggs yn cyflenwi Tesco, a oedd wrth eu bodd yn gweld y Cynllun. Mae Tesco wedi ymrwymo i gyflawni sero net ar draws ei gadwyn werth erbyn 2050 ac mae eisoes wedi lleihau ei allyriadau gweithredol 65% ers 2015, fel y dywedodd Enfys Fox, Rheolwr Perthnasoedd Cyrchu Lleol Tesco, “Mae Tesco wedi ymrwymo i adeiladu system fwyd fwy cynaliadwy, ac rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn y rhaglen beilot drawsnewidiol hon. Rydyn ni’n cydnabod y rôl sydd gan y diwydiant i'w chwarae wrth helpu i leihau allyriadau carbon. Drwy gefnogi cyflenwyr fel Ellis Eggs i sefydlu ei effaith a darparu camau ymarferol i'w cymryd ymlaen, rydyn ni’n cymryd camau pwysig i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant.”
Mewnwelediadau a manteision
Rhannodd Jason Ellis, Rheolwr Cyffredinol Ellis Eggs, fewnwelediadau am ei brofiad gyda'r Cynllun Peilot Lleihau Carbon, “Roedd yn sicr yn brofiad gwerth chweil, ac rwy'n synnu nad yw rhywbeth gorfodol wedi'i gyflwyno ar lefel y DU gyfan i feincnodi perfformiad amgylcheddol cwmnïau.
“Yn y pen draw, mae angen i ni ddangos sut rydyn ni’n ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, felly roedden y profiad yn sicr yn werth chweil. Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot nid yn unig yn helpu'r busnes ond hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ac ymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau ôl troed carbon.
"Mae wir yn rhoi persbectif ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel busnes, nid yn unig ar gyfer y cwmni a'r amgylchedd, ond hefyd ar lefel bersonol. Mae ein holl staff bellach yn ailgylchu ac yn deall pwysigrwydd hynny. Rwy'n credu y bydd yr ymwybyddiaeth hon yn ymestyn i'w cartrefi, gan greu effaith ganlyniadol gadarnhaol."
Tynnodd Jason sylw hefyd at fanteision busnes cymryd rhan yn y Cynllun Peilot Lleihau Carbon, gan ddatgan, “Mae cymryd rhan yn y fenter hon nid yn unig wedi gwella ein cymwysterau amgylcheddol ond hefyd wedi gwella ein heffeithlonrwydd gweithredol. Drwy nodi meysydd lle gallwn leihau gwastraff a defnydd ynni, rydyn ni wedi gallu torri costau a gwella ein helw. Mae hyn wedi ein gwneud yn fwy cystadleuol yn y farchnad ac wedi cryfhau ein perthnasoedd â chwsmeriaid allweddol sy'n gwerthfawrogi cynaliadwyedd.”
Yn y pen draw, mae angen i ni ddangos sut rydyn ni’n ceisio lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, felly roedden y profiad yn sicr yn werth chweil. Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot nid yn unig yn helpu'r busnes ond hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth ac ymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau ôl troed carbon. Mae wir yn rhoi persbectif ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud fel busnes, nid yn unig ar gyfer y cwmni a'r amgylchedd, ond hefyd ar lefel bersonol. Mae ein holl staff bellach yn ailgylchu ac yn deall pwysigrwydd hynny. Rwy'n credu y bydd yr ymwybyddiaeth hon yn ymestyn i'w cartrefi, gan greu effaith ganlyniadol gadarnhaol.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae Ellis Eggs wedi ymrwymo i barhau â'i daith gynaliadwyedd trwy gyflwyno sawl menter newydd, gyda Jason yn dweud, “Mae'r cwmni'n archwilio amrywiol fesurau, gan gynnwys ehangu gosodiadau paneli solar, rhoi casgliadau gwastraff bwyd ar waith, a lleihau trwch blychau wyau i arbed ar gardbord. Rydyn ni hefyd yn newid i argraffu ar y blychau i ddileu'r angen am sticeri na ellir eu hailgylchu.”
I gloi, mae cyfranogiad Ellis Eggs yn y Cynllun Peilot Lleihau Carbon wedi bod yn brofiad gwerthfawr. Mae'r cwmni'n parhau i fod yn ymroddedig i'w nodau cynaliadwyedd ac yn edrych ymlaen at gymryd camau cadarnhaol a symud ymlaen yn ei daith tuag at leihau ei ôl troed carbon.
Ydy eich busnes yn awyddus i ddatblygu cynllun lleihau carbon?
Gallwch wella eich arferion cynaliadwyedd gyda'n Peilot Lleihau Carbon. Cewch arweiniad a chymorth arbenigol drwy e-bostio SustainableFD@gov.wales gyda “Peilot Lleihau Carbon” yn y llinell bwnc.