Mae'r cyfanwerthwr a'r gwneuthurwr bwyd Castell Howell yn defnyddio cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddeall allyriadau'n well ar draws ei gadwyn gyflenwi wrth gryfhau gwydnwch yn erbyn effeithiau newid hinsawdd.

Wedi'i leoli yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, mae'r busnes yn cyflogi bron i 1,000 o bobl ac yn gweithredu depos ledled Cymru ac yn Avonmouth. Gyda nifer sylweddol o’i ffrwythau a llysiau yn dod o Sbaen a Moroco, mae lleihau allyriadau a diogelu cyflenwadau yn y dyfodol yn flaenoriaethau allweddol.

Deall y gadwyn gyflenwi ehangach

Fel prif gyflenwr i'r sector gwasanaethau bwyd, mae Castell Howell yn cydnabod bod cynaliadwyedd yn ymestyn y tu hwnt i'w weithrediadau ei hun i effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y gadwyn fwyd ehangach.

Ymrwymodd y busnes i ddatblygu Cynllun Lleihau Carbon, gan gael mynediad at gefnogaeth asesydd carbon arbenigol trwy gynnig Cynllun Lleihau Carbon Llywodraeth Cymru a ariennir yn llawn. Caniataodd hyn i'r busnes fesur a deall ei allyriadau'n well, yn enwedig Cwmpas 3, a nodi'r categorïau cynnyrch a'r meysydd o'i gadwyn gyflenwi sydd â'r effaith amgylcheddol fwyaf.

“Mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ein hallyriadau Cwmpas 3 a nodi ble mae’r effeithiau mwyaf wedi bod o fudd mawr,” meddai Ed Morgan, Rheolwr Materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu Castell Howell.

Mae’r gwaith eisoes yn helpu i ysgogi newid mesuradwy. Adroddodd Cynllun Lleihau Carbon Castell Howell ym mis Mawrth 2024 ostyngiad o 7.29% mewn allyriadau fesul pwysau o gynnyrch a werthwyd o’i gymharu â’i linell sylfaen 2020/21. Mae’r cwmni hefyd yn amcangyfrif bod defnyddio teithiau dychwelyd i gludo iogwrt gan gwmni Llaeth y Llan wedi osgoi tua 6,197 kg o allyriadau CO₂.

Mae’r canfyddiadau wedi rhoi cipolwg cliriach i uwch reolwyr ar fannau problemus allyriadau a chyfleoedd i wella ar draws y gadwyn gyflenwi. Wrth edrych ymlaen, disgwylir i gynaliadwyedd chwarae rhan gynyddol bwysig wrth achredu cyflenwyr a gwneud penderfyniadau caffael.

Byddwn yn annog busnesau bwyd a diod yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth a'r hyfforddiant sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd ar hyd y gadwyn gyflenwi, gallwn helpu i sicrhau cyflenwad bwyd mwy gwydn a chyson am flynyddoedd i ddod.

Castell Howell warehouse

Meithrin gwydnwch ar gyfer y dyfodol

Ochr yn ochr â lleihau allyriadau, mae Castell Howell wedi cael mynediad at gefnogaeth wedi’i hariannu’n llawn trwy raglen Hyfforddiant Gwydnwch ac Addasu i’r Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Y cam cyntaf oedd cwblhau asesiad parodrwydd addasu i’r hinsawdd i nodi risgiau a heriau allweddol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Defnyddiwyd y canfyddiadau wedyn i lunio gweithdy un-i-un pwrpasol gyda'r uwch-dîm arwain, gan ganolbwyntio ar heriau penodol y busnes. Archwiliwyd y risgiau hyn a sut y gellid meithrin mwy o wydnwch wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y busnes.

Un o brif ffocysau Castell Howell fu deall sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar ranbarthau cyflenwi pwysig – yn enwedig Sbaen a Moroco – sy'n cyflenwi cyfran sylweddol o'i ffrwythau llysiau.

I Castell Howell, mae’r cysylltiad rhwng addasu a lleihau carbon yn agos.

"Mae'r Cynllun Lleihau Carbon a’r rhaglen addasu a gwydnwch yn ategu ei gilydd ac yn gweithio law yn llaw. Mae un yn ein helpu i leihau ein cyfraniad at newid hinsawdd, tra bod y llall yn ein helpu i baratoi ar gyfer yr effeithiau sydd eisoes yn cael eu teimlo ar hyd y gadwyn gyflenwi," ychwanegodd Ed.

Wrth i batrymau tywydd ddod yn fwyfwy anwadal, mae gwydnwch wedi dod yn flaenoriaeth gynyddol i'r busnes. Mae'r cwmni eisoes yn gweld effeithiau newid hinsawdd o fewn ei rwydwaith cyflenwi, ac mae'n cymryd camau i ddeall a rheoli risgiau'r dyfodol yn well.

Dull sy'n ymdrin â'r gadwyn gyfan

Mae ymrwymiad Castell Howell i system fwyd fwy cynaliadwy hefyd yn ymestyn i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Drwy fenter Tyfu Dyfodol Iachach – mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill – mae'r busnes yn helpu i gynyddu faint o gynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru sy'n cael ei gyflenwi i ysgolion.

Mae'r fenter yn adeiladu ar lwyddiant prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, a dyfodd o gyflenwi tunnell o lysiau organig i ysgolion yng Nghaerdydd yn 2022, i fwy na 25 tunnell yn cael eu dosbarthu ar draws 10 awdurdod lleol erbyn 2025.

Mae Ed yn credu y bydd cydweithio ar draws y sector bwyd a diod yn hanfodol er mwyn creu dyfodol mwy gwydn a chynaliadwy: "Byddwn yn annog busnesau bwyd a diod yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth a'r hyfforddiant sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd ar hyd y gadwyn gyflenwi, gallwn helpu i sicrhau cyflenwad bwyd mwy gwydn a chyson am flynyddoedd i ddod."

I Castell Howell, nid lleihau allyriadau yn unig yw cynaliadwyedd. Mae'n ymwneud â chreu cadwyn gyflenwi bwyd sy'n gryfach ac yn fwy gwydn, gan ddefnyddio data a chydweithio i lywio penderfyniadau, cefnogi cyflenwyr a pharatoi ar gyfer heriau'r dyfodol.

I gael arweiniad a chymorth arbenigol, anfonwch e-bost at SustainableFD@gov.wales.

Straeon cysylltiedig

Just Love Food

Mae Just Love Food Company wedi cynyddu nifer y cynhyrchion mae’n eu rhoi ar bob paled o 25%, gan wella effeithlonrwydd cludo a helpu i leihau ei ôl troed carbon wrth i'r busnes barhau i dyfu.

La Creme Patisserie staff

La Crème Patisserie

Cwblhaodd La Crème Patisserie y cynllun peilot Lleihau Carbon yn ddiweddar, a roddodd offer hanfodol ac arweiniad arbenigol i'r cwmni i wella eu harferion cynaliadwyedd yn strategol o fewn y diwydiant bwyd a diod.

Llaeth y Llan family

Llaeth y Llan

Mae Llaeth y Llan wedi manteisio ar y Cynllun Peilot Lleihau Carbon i fapio ei allyriadau, gwella cynaliadwyedd, a chryfhau ymddiriedaeth cwsmeriaid gyda mwy o dryloywder.

Edwards, The Welsh Butcher

Edwards, Y Cigydd Cymreig

Cwblhaodd Edwards, Y Cigydd Cymreig, y Cynllun Lleihau Carbon peilot yn ddiweddar, a roddodd adnoddau hanfodol ac arweiniad arbenigol i'r cwmni i wella eu harferion cynaliadwyedd yn strategol o fewn y diwydiant bwyd a diod.