Galluogodd y penderfyniad hwn y busnes i ddatblygu cynllun lleihau carbon cadarn a chael y mewnwelediad ymarferol sydd ei angen i gryfhau effeithlonrwydd, gwydnwch a chynaliadwyedd hirdymor.
Hanes y cwmni
Mae Castle Dairies yn wneuthurwr menyn teuluol sefydledig yng Nghaerffili, de Cymru, sy’n dathlu 60 mlynedd mewn busnes yn 2026. Dros chwe degawd, mae’r cwmni wedi tyfu o’i ddechreuad teuluol i fod yn gyflenwr dibynadwy i fanwerthwyr mawr y DU.
Mae’r busnes yn cynhyrchu detholiad o sawl menyn bloc, rhai sy’n taenu a rhai â blas o’i safle cynhyrchu yng Nghaerffili. Heddiw, mae Castle Dairies yn cyflogi tua 120 o bobl yn ei swyddfa a’i weithrediadau cynhyrchu, gyda phob aelod o’r tîm yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal safonau gweithgynhyrchu uchel a chefnogi twf parhaus y cwmni.
Cymryd y camau cyntaf mewn adrodd carbon
Mae Castle Dairies wedi bod yn rhan weithredol o Glwstwr Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn, sy’n cynnwys mynediad at amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi cynaliadwyedd am ddim.
Wrth i ddisgwyliadau cwsmeriaid ynghylch adrodd amgylcheddol gynyddu, cydnabu’r busnes yr angen i gyfrifo ei allyriadau carbon yn gywir a datblygu dull strwythuredig o’u lleihau. Er bod yr uchelgais yn glir, nid oedd gan Castle Dairies y capasiti mewnol i gynnal asesiad allyriadau cynhwysfawr yn annibynnol.
Drwy gael mynediad at arbenigedd technegol a ariennir yn llawn drwy’r Cynllun Peilot Lleihau Carbon, roedd y busnes yn gallu datblygu dealltwriaeth fanwl o’i ôl troed carbon, nodi cyfleoedd i wella a sefydlu trywydd clir ar gyfer lleihau allyriadau yn y dyfodol.
Drwy’r cynllun peilot, derbyniodd Castle Dairies gefnogaeth barhaus gan arbenigwr technegol, gan gynnwys ymweliad â’r safle ac arweiniad drwy gydol y broses casglu data, gan helpu’r busnes i lywio’r hyn a all yn aml fod yn broses gymhleth o fesur allyriadau a chasglu data.
Dywedodd Rhys Williams, Cyfrifydd Rheoli Castle Dairies, “Roedden ni eisoes wedi ymrwymo i wella ein cymwysterau cynaliadwyedd, ond yr hyn yr oedd ei angen arnon ni oedd ffordd glir, strwythuredig o ddeall ein hallyriadau a ble y gallen ni gael yr effaith fwyaf. Cynigiodd y Cynllun Peilot Lleihau Carbon ystod o gefnogaeth i ni a drodd dasg gymhleth yn rhywbeth ymarferol a chyraeddadwy.”
Cymerodd y broses o ddatblygu cynllun lleihau carbon tua chwe mis a rhoddodd ddarlun clir i Castle Dairies o’i allyriadau ar hyd a lled y busnes, gan gynnwys tynnu sylw at gyfleoedd i leihau effaith amgylcheddol a chostau gweithredol.
Er bod rhai o’r gofynion data yn gymhleth, gwnaeth y dull strwythuredig a’r canllawiau arbenigol y broses yn hylaw, gan alluogi timau ledled y busnes i gyfrannu’n effeithiol.
Cynigiodd y Cynllun Peilot Lleihau Carbon ystod o gefnogaeth i ni a drodd dasg gymhleth yn rhywbeth ymarferol a chyraeddadwy.
Manteision penodol
Ers gwneud y penderfyniad i ddatblygu ei Gynllun Lleihau Carbon cyntaf, mae Castle Dairies mewn sefyllfa llawer cryfach i ymateb i geisiadau cwsmeriaid am ddata amgylcheddol.
Wrth i adrodd ar allyriadau ddod yn ofyniad cynyddol gyffredin ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod, mae cael dealltwriaeth glir o’i ôl troed carbon wedi galluogi’r busnes i ddarparu gwybodaeth gywir yn hyderus a dangos ei ymrwymiad i gynaliadwyedd.
Dywedodd Rhys Williams, “Mae cael data allyriadau cywir wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sgyrsiau gyda chwsmeriaid.
Rydyn ni bellach yn gallu ymateb yn hyderus i geisiadau am wybodaeth a dangos yn glir y camau rydyn ni’n eu cymryd i leihau ein heffaith.”
Mae’r rhaglen hefyd wedi helpu Castle Dairies i ddechrau mynd i’r afael ag allyriadau Cwmpas 3, sy’n aml yn cynrychioli’r gyfran fwyaf o ôl troed carbon gwneuthurwr bwyd. Tynnodd yr adroddiad sylw at feysydd lle gall y busnes gydweithio’n agosach â chyflenwyr ac adolygu prosesau presennol i helpu lleihau allyriadau ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach.
Mae’r mewnwelediadau hyn yn helpu Castle Dairies i ddeall yn well ble y gallai ymyriadau ar draws y gadwyn gyflenwi gyflawni’r effaith amgylcheddol fwyaf.
“Rydyn ni bellach yn gallu ymateb yn hyderus i geisiadau am wybodaeth a dangos yn glir y camau rydyn ni’n eu cymryd i leihau ein heffaith.”
Myfyrio ac edrych ymlaen
Y brif her a wynebwyd oedd casglu’r data angenrheidiol cyn yr adroddiad. Aethpwyd i’r afael â hyn trwy gydweithio’n agos ar draws adrannau, gan gyfuno sawl adroddiad mewnol i sicrhau bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi’i chasglu’n gywir. Roedd cefnogaeth gan yr arbenigwr technegol yn amhrisiadwy wrth arwain y broses a helpu’r tîm i lywio’r gofynion data, gan sicrhau asesiad cadarn a chywir.
Wrth edrych ymlaen, blaenoriaeth uniongyrchol Castle Dairies yw gweithredu’r argymhellion a nodwyd yn ei gynllun lleihau carbon a sicrhau bod ystyriaethau cynaliadwyedd wedi’u hymgorffori mewn gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ar hyd a lled y busnes. Mae hyn yn cynnwys cynyddu ymwybyddiaeth cydweithwyr o amcanion lleihau carbon ac archwilio cyfleoedd i leihau allyriadau ar draws gweithrediadau a’r gadwyn gyflenwi ehangach.
Mae’r Adroddiad Lleihau Carbon wedi darparu fframwaith clir ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, gan alluogi’r busnes i flaenoriaethu prosiectau a fydd yn cynnig buddion amgylcheddol a masnachol wrth gefnogi disgwyliadau cwsmeriaid o ran adrodd cynaliadwyedd.
Fel rhan o’i ymrwymiad parhaus, mae Castle Dairies hefyd yn ystyried y fenter Targedau Seiliedig ar Wyddoniaeth fel cam nesaf rhesymegol, er ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar ac mae’r dull gorau yn dal i gael ei asesu.
Y Gwasanaeth Cynaliadwyedd
Lansiwyd y Gwasanaeth Cynaliadwyedd ym mis Ebrill 2026, ac mae’n darparu un cynnig symlach ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Mae’r gwasanaeth yn disodli’r Cynllun Peilot Lleihau Carbon blaenorol, ac yn dwyn ynghyd gefnogaeth adrodd carbon, mynediad at y Clwstwr Cynaliadwyedd, hyfforddiant, ymchwil a mewnwelediadau i’r sector i helpu busnesau i wella perfformiad cynaliadwyedd ac adeiladu gwydnwch hirdymor.
*Cefnogodd y Cynllun Peilot Lleihau Carbon (2024-2026) dros 120 o weithgynhyrchwyr i gymryd eu camau cyntaf mewn Adrodd Carbon. Mae dull profi a dysgu a chanfyddiadau’r cynllun peilot wedi llunio’r cynnig adrodd carbon cadarn o fewn y Gwasanaeth Cynaliadwyedd. Mae ein protocolau’n cyd-fynd â safonau a gydnabyddir yn rhyngwladol (Protocolau Nwyon Tŷ Gwydr), gofynion Caffael Cyhoeddus a methodolegau’r DU. Mae’n sicrhau bod data allyriadau’n gadarn, yn gymharol ac yn gymorth i adrodd cyson ar draws y sector gan helpu busnesau i nodi arbedion cost ac ynni drwy lens lleihau carbon.
A yw eich busnes chi’n awyddus i gymryd y cam nesaf ar gynaliadwyedd?
Mae Gwasanaeth Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru wedi’i ariannu’n llawn ac mae’n cynnig canllawiau arbenigol, cefnogaeth adrodd carbon, hyfforddiant ac offer ymarferol i weithgynhyrchwyr bwyd a diod i helpu datblygu cynlluniau cynaliadwyedd a nodi cyfleoedd i wella. I gael gwybod mwy, e-bostiwch SustainableFD@gov.wales.