I gymhwyso fel 'Seidr Cymreig Traddodiadol', rhaid tyfu afalau seidr, cynhyrchu sudd o'r gwasgiad cyntaf, gwneud y broses eplesu a photelu neu lenwi casgenni gyda'r seidr yn yr ardal ddaearyddol ddiffiniedig. Golyga hyn gyda phob llymaid o'r seidr hwn, rydych yn gwybod yn union lle cafodd yr afalau eu tyfu a'u gwasgu. Wedi dweud hynny, nid yw pob swp (neu cuvée) yr un fath - mae'r amrywiaeth o afalau a ddefnyddir wrth gynhyrchu'r seidr yn effeithio ar ei flas sy'n ychwanegu at ansawdd artisan y cynnyrch unigryw hwn.

Fel y gallwch ddyfalu, mae traddodiad yn ffurfio rhan sylfaenol o gynhyrchu'r cynnyrch PGI hwn. Bydd yr afalau'n naill ai'n disgyn o'r coed neu cânt eu hysgwyd a'u casglu â llaw neu beiriant. Yna, gadewir nhw i aeddfedu'n naturiol cyn iddynt gyrraedd y felin lle cânt eu golchi a'u melino i greu pwlp. Mae chwalwr yn torri'r ffrwyth cyfan i ffurfio pwlp, sydd yna'n cael ei wasgu i echdynnu'r sudd. Mae'r cynnyrch terfynol yn gynnyrch 'byw' naturiol heb ei basteureiddio. Caiff purdeb y cynnyrch hwn ei ddiogelu oherwydd ni chaniateir ychwanegu crynodiad ffrwyth, siwgrau, melysyddion, lliw a charbonadu artiffisial ymhlith elfennau eraill.

Nid yn unig mae'r ddiod draddodiadol, hynod naturiol hon yn ffurfio rhan o straeon ffermio hanesyddol - mae'n elfen fyw o amaethyddiaeth Gymreig. Mae adfywiad gwneud seidr yn digwydd yng Nghymru, sy'n cael ei hybu gan safonau artisan a dulliau prosesu naturiol. Drwy ddyfarnu statws PGI i Seidr Cymreig Traddodiadol yn 2017, bydd hyn yn cynorthwyo i roi seidr Cymreig ar y map.

Straeon cysylltiedig

Traditional Welsh Perry

Perai Cymreig Traddodiadol (PGI)

Mae 'perai' yn air sy'n llawn hanes ac yn adnabyddus am ei natur ar raddfa fechan. Wedi dweud hynny, mae'n ffurf ar gelfyddyd sy'n adfywio yng Nghymru, yn hytrach na marw, gyda dros 20 o wneuthurwyr perai ledled Cymru sy'n rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd drwy Gymdeithas Perai Seidr Cymru.

Vale of Clwyd Denbigh Plum

Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd (PDO)

Fel y ffrwyth cyntaf i ymuno â theulu Dynodiad Daearyddol Cymru fel cynnyrch PDO yn 2019, mae gan yr eirin bychain hyn dipyn o stori i'w hadrodd.

Welsh Heather Honey

Mêl Grug Cymru (PGI)

Mae Mêl Grug Cymru yn fêl nodweddiadol, hollol naturiol a gynhyrchir gan Wenyn mêl y Gorllewin (Apis mellifera) sy’n chwilota ar hyd a lled rhostiroedd grug bywiog Cymru.

Welsh Laverbread

Bara Lawr Cymreig (PDO)

O fod yn ffynhonnell fwyd hanfodol gyda phroffil maethol unigryw, cyn datblygu i fod yn ddanteithfwyd Cymreig, mae’r ‘blas ar arfordir Cymru’ yn rhyfeddol o hyblyg.