Fel y gallwch ddychmygu, mae cynhyrchu'r caws hwn yn gofyn gwybodaeth a sgiliau penodol sydd wedi'u datblygu a'u cysylltu â Chymru ers dechrau'r 19eg ganrif ac wedi aros yr un fath ers cenedlaethau. Nid yn unig mae'r caws hwn yn gysylltiedig â thraddodiad, ond mae ganddo gysylltiad â lle hefyd oherwydd caiff ei gynhyrchu'n unig o laeth buwch a gynhyrchir ar ffermydd Cymru a dyma yw unig gaws brodorol Cymru.
Cynhyrchir 'Traditional Welsh Caerffili' fel caws crwn, gwastad sydd â gwead gwyn hufennog cyson. Mae'n gaws ifanc ffres a blas mwyn iddo, gydag awgrym o lemon. Bydd y blas yn datblygu wrth iddo aeddfedu i flas llawnach, cryfach, ond eto'n parhau i fod yn fwyn. Mae arogl caws ffres a gwead llyfn, llawn a haenog i 'Traditional Welsh Caerffili'. Caiff ei werthu fel caws 'noeth' heb liain a'i wneud i gael ei fwyta'n ifanc o 10 niwrnod oed neu gellir ei aeddfedu am hyd at 6 mis.
Er mwyn hyrwyddo'r hanes unigryw sy'n rhan o DNA y caws hwn, dyfarnwyd ef â statws PGI yn 2017.