Mae nifer o elfennau i’r rhaglen. Mae’r Cynllun Manwerthu yn cynnwys cefndir ar gyfleoedd a heriau amrywiol sy’n wynebu cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru. Ar hyn o bryd mae Cymorth Datblygu Masnach yn cynnal nifer o weminarau sydd â’r nod o ddarparu gwybodaeth ymarferol i helpu busnesau i ddatblygu.

Mae digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr yn denu manwerthwyr bwyd a diod mawr, cyfanwerthwyr a chwmnïau annibynol. Rydym yn cynnig cipolwg o ofynion prynu ac yn darparu cyfleoedd unigryw i hybu gwerthiannau.

Mae ein Rhaglen Sgiliau Masnachol yn mynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau a chymwyseddau busnes, gan ddatblygu safonau rheoli masnachol proffesiynol yn y diwydiant. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru

Straeon cysylltiedig

different types of produce

Cluster Network 

These clusters have been developed to maximise economic growth within Wales and also to respond to sectors that need direct Welsh Government support.

Chef talks to potential customer

Rhaglen y Gwasanaeth Bwyd

Amcan cyffredinol Rhaglen y Gwasanaeth Bwyd yw cefnogi busnesau Bwyd a Diod Cymru i dyfu a chreu swyddi drwy sicrhau contractau i farchnadoedd rhanbarthol (Cymru) a chenedlaethol (DU).

cheese

Enwau Bwyd a Diod Gwarchodedig

Gall cydnabod eich cynnyrch bwyd neu ddiod o Gymru o dan un o gynlluniau Dynodiad Daearyddol y DU roi statws gwarchodedig amhrisiadwy iddo. Mae’n cadarnhau ei fod yn gynnyrch unigryw, wedi’i gynhyrchu yng Nghymru yn unig.

Buyer viewing Welsh produce at Blas Cymru / Taste Wales

Rhaglen Allforio

Gallwn gynnig cefnogaeth un i un i chi os ydych yn ystyried allforio fel ffordd o gynyddu eich trosiant a’ch elw.