Yn hanesyddol, bridiau gwartheg traddodiadol pennaf Cymru oedd y Gwartheg Duon Cymreig a Gwartheg Henffordd, a'r bridiau hyn sy'n dal i fod wrth wraidd y diwydiant cig eidion yng Nghymru hyd heddiw. Daw Cig Eidion Cymru PGI o fridiau traddodiadol Cymru a'r bridiau hyn wedi'u croesi â'i gilydd neu gydag unrhyw frid cydnabyddedig arall.
Mae ein gwartheg yn ffurfio rhan allweddol o'r tirlun amaethyddol yng Nghymru. Mae'r gwartheg yn bwydo ar ddigonedd o laswelltiroedd ffrwythlon yng Nghymru sydd yn eu tro yn cael eu bwydo gan hinsawdd wlyb, fwyn Cymru. Caiff holl Cig Eidion Cymru PGI eu magu ar dir fferm Cymreig gyda safonau uchel o lesiant anifeiliaid ac olrheiniadwyedd llwyr.
Rydym yn parhau i ddefnyddio statws Cig Eidion Cymru PGI i ddiogelu'r cynnyrch arbennig hwn, sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r tirlun naturiol, heb ei ddifetha, sydd yn nodweddiadol o Gymru. Mae cyrff llywodraethu mewn lle i sicrhau bod gonestrwydd a dilysrwydd y cig yn cael eu cynnal. Hybu Cig Cymru (HCC) yw gwarcheidwaid Cig Eidion Cymru PGI. HCC yw'r sefydliad a arweinir gan ddiwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig.