Pam Allforio?
Gall allforio drawsnewid eich busnes. Mae gwerthu mwy a mwy o elw’n fanteision amlwg – ond mae masnachu’n rhyngwladol yn arwain at sawl mantais gystadleuol arall i chi. Drwy ymateb i farchnadoedd heriol, byddwch yn dod yn fwy hyblyg, creadigol ac arloesol, byddwch yn fwy effeithlon, yn ymestyn cylch bywyd eich cynnyrch ac mae’r risg yn cael ei thaenu ar draws sawl marchnad. Ond mae’n rhaid paratoi’n ofalus. Gofynnwch i’ch hun, ydw i’n barod ar gyfer marchnad fwy? Beth ddylwn i roi sylw iddo’n gyntaf? Ydy fy nghynnyrch neu fy ngwasanaethau’n barod? Oes gen i’r adnoddau a’r wybodaeth? A beth am gludo, rheoliadau, trethi a deddfau mewnforio ac ati?
Cefnogaeth i allforio
Dysgwch fwy am eich parodrwydd i allforio drwy ein siart llif.
Drwy ein rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol, byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i ddatblygu eich strategaeth allforio; dewis y farchnad orau i chi; diffinio eich llwybr i’r farchnad; edrych ar yr ystyriaethau ariannol a’r gweithdrefnau, y rheoliadau a logisteg allforio.
Datblygu gallu i allforio / meithrin gwydnwch: Rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol (ITD)
Cefnogaeth un-i-un gan gontractwr - gall gynnwys cymorth i ddatblygu strategaeth allforio, nodi a blaenoriaethu marchnadoedd targed; cyngor ar lwybrau i'r farchnad, safonau technegol, gwaith papur, a logisteg. Mae cymorth hefyd ar gael i allforwyr mwy profiadol a gallwn helpu i fod yn fwy darbodus / craff yn y marchnadoedd presennol yn ogystal â helpu i nodi marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau. Mae'r cymorth hwn wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Cysylltu â chyfleoedd: Grant Ymweliad Datblygu Busnes Tramor
Yn ogystal â'n rhaglen digwyddiadau tramor, mae gennym grant a all helpu gyda chost arddangos dramor a/neu ymweld â marchnadoedd newydd i ddatblygu busnes. Rhaid i gwmnïau allu dangos bod angen y grant; ni ddylent fod wedi gwneud ymrwymiad blaenorol (ariannol neu fel arall) a ni ddylent fod yn gwasanaethu contract presennol. Byddech yn talu 50% o'r gost hyd at uchafswm o £10,000. Er mwyn gwneud cais am y cyllid hwn, rhaid bod gennych gytundeb Contract Economaidd ar waith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.
Digwyddiadau Tramor: Mae Adran Bwyd Llywodraeth Cymru yn arddangos mewn sioeau masnach rhyngwladol mawr. Fel arfer, byddech yn talu 40-50% o'r gost. Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau tramor yn cynnwys, er enghraifft, FHA Singapore, Summer Fancy Food Show, a Gulfood.
Ymweliadau â Marchnad Allforio Aml-sector: Mae cwmnïau Bwyd a Diod hefyd yn gymwys i gymryd rhan mewn ymweliadau â marchnadoedd allforio aml-sector sy’n cael eu darparu gan Dîm Masnach ehangach Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn gyfle i arddangos eich cwmni, creu cysylltiadau gwerthfawr ac adeiladu eich allforion. Mae eu calendr digwyddiadau i'w weld yma: Calendr Digwyddiadau
Export Cluster: Clwstwr Allforio: Grŵp aelodaeth ar gyfer cwmnïau bwyd a diod o'r un anian sy'n ymwneud ag allforio, fel arfer ceir 6-8 digwyddiad bob blwyddyn, cyfle am gymorth ychwanegol sy'n unigryw i fod yn aelod o’r clwstwr ynghyd â chyfle i ddylanwadu ar ddarpariaeth y cymorth yn y dyfodol. Mae'r clwstwr allforio yn rhad ac am ddim a gallwch ymuno yma here.
Export Hub: Hwb Allforio: O archwilio marchnadoedd i gydymffurfiaeth masnach, o nodi cleientiaid posibl i ddogfennau cludo, bydd yr Hwb Allforio yn gallu eich cefnogi ar eich taith allforio. Isod ceir dim ond ychydig o'r nodweddion ac mae'n rhad ac am ddim i gofrestru:
- 180+ o broffiliau gwledydd manwl
- 25,000 o adroddiadau ar farchnadoedd
- 12,000 o sioeau masnach
- Cronfeydd data sy'n cynnwys mwy na 500,000 o fewnforwyr a chyflenwyr.
- Rhestrau gwirio canllawiau, offer a chynghorion ar ddod o hyd i gymheiriaid, cydymffurfio â rheoliadau masnach, cyfrifo costau allforio.
Mwy o help gan gyrff masnach rhyngwladol
Mae sefydliadau fel yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a Chymdeithas Allforwyr Bwyd & Diod (FDEA) yn cynnig help ychwanegol i sicrhau llwyddiant i fusnesau mewn marchnadoedd byd-eang. Mae’r Adran yn darparu gwasanaeth arweiniadau allforio rhyngwladol am ddim ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar-lein bob mis am gyfleoedd busnes mewn dros 100 o farchnadoedd byd-eang. Mae’r Gymdeithas Allforwyr Bwyd a Diod yn gorff masnach pwrpasol lle gael yr aelodau sy’n allforwyr o'r un anian rannu manteision profiad datblygu busnes rhyngwladol sylweddol.